HRH Duchess of Edinburgh visits Swansea Uni

Arweinydd Arbenigol yn cael cydnabyddiaeth Frenhinol am waith sy’n cefnogi dioddefwyr trais rhywiol sy’n gysylltiedig â gwrthdaro

24 Tachwedd

Yn ddiweddar, croesawodd yr Athro Iain Whitaker, Arweinydd Arbenigol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer Llawfeddygaeth, EHB Duges Caeredin i Brifysgol Abertawe i gwrdd â’r tîm y tu ôl i SPARC, cydweithrediad rhyngwladol arloesol sy’n helpu dioddefwyr trais rhywiol sy’n gysylltiedig â gwrthdaro (CRSV). 

Cafodd SPARC (Cynghrair Abertawe-Panzi ar gyfer Adlunio a Gofalu am ddioddefwyr CRSV) ei sefydlu ar ôl i’r Athro Whitaker arwain taith i Ysbyty Panzi yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo yn gynharach eleni. Sefydlwyd yr ysbyty gan yr enillydd gwobr Nobel, Dr Denis Mukwege, sydd wedi ymroi drwy gydol ei yrfa i drin dioddefwyr CRSV. 

Mae trin yr achosion mwyaf difrifol yn gofyn am gyfuniad cymhleth o lawdriniaeth blastig, adluniol a gynaecolegol uwch. Yn ystod ei gyfnod yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo, perfformiodd yr Athro Whitaker lawdriniaeth yr arsylwyd arni gan dîm llawfeddygol Panzi, i rannu sgiliau ac arbenigedd. 

Mae Ei Huchelder Brenhinol yn codi ymwybyddiaeth o effaith gwrthdaro ar fenywod ac roedd hefyd wedi ymweld ag Ysbyty Panzi yn flaenorol. Yn ystod ymweliad blaenorol â Rhaglen Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer Llawfeddygaeth Adluniol a Meddygaeth Adfywiol (ReconRegen) yn Abertawe, yn ei rôl fel noddwr y Scar Free Foundation, awgrymodd gyfarfod rhwng yr Athro Whitaker a Dr Mukwege.  

Teithiodd Dr Mukwege hefyd i Abertawe i weld Ei Huchelder Brenhinol, yr Athro Whitaker a’i dîm eto. Fel rhan o’r ymweliad, cafwyd trosolwg o’r daith i Weriniaeth Ddemocrataidd Congo a nodwyd camau nesaf SPARC, gan gynnwys datblygu prototeipiau hyfforddiant llawfeddygol 3D arloesol wedi’u hargraffu. 

Meddai’r Athro Whitaker,

Roedd hi’n anrhydedd cael croesawu’r Dduges i Brifysgol Abertawe eto. Roedd yr ymweliad ag Ysbyty Panzi yn un o uchafbwyntiau fy ngyrfa ar lefel bersonol a phroffesiynol. Cefais fy nghyffwrdd gymaint gan gadernid a phositifrwydd anhygoel y menywod yn Panzi a’r gwaith y mae Dr Mukwege wedi’i wneud dros ddau ddegawd ac rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda’n cydweithwyr yn Panzi i wella gofal ac ysgogi datblygiadau er mwyn gwneud gwahaniaethau sy’n newid bywydau i oroeswyr.” 

Dywedodd Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Rydyn ni’n falch bod Cymru’n chwarae ei rhan yn y gwaith cydweithredol rhyngwladol hwn, sydd wedi cael cydnabyddiaeth Frenhinol gan Ei Huchelder Brenhinol. Bydd y cydweithredu agos rhwng yr Athro Whitaker a Dr Mukwege a’r tîm yn Ysbyty Panzi yn allweddol wrth helpu dioddefwyr trais rhywiol sy’n gysylltiedig â gwrthdaro yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo ac mae wir yn deimlad gwylaidd i weld sut mae ymchwil yng Nghymru yn helpu yn y maes hwn.” 

Bu’r daith i Weriniaeth Ddemocrataidd Congo yn bosibl diolch i gyllid gan Gynllun Grant Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru a Rhaglen Cyfnewid Symudedd Ymchwil Taith, gyda chefnogaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, The Scar Free Foundation, y Swyddfa Dramor a Chymanwlad  a Swyddfa Duges Caeredin.