Conference panel

Dod yn Arweinydd Arbenigedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru - Gwnewch gais nawr

17 Ionawr

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn recriwtio Arweinwyr Arbenigedd a gwahoddir ceisiadau mewn 31 maes arbenigol am gyfnod o dair blynedd, gyda thymor cychwynnol o flwyddyn ar gyfer yr Arweinydd Arbenigedd Gofal Cymdeithasol.

Mae Arweinwyr Arbenigedd yng Nghymru yn darparu cymorth strategol pwysig fel rhan o Wasanaeth Cymorth a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Maent yn darparu ymgysylltiad cryf ar lefel- DU i Gymru o ran monitro portffolio ymchwil glinigol a chyflenwi ymchwil.

Fel Arweinydd Arbenigedd Cymru, byddwch yn arweinydd clinigol profiadol o'r radd flaenaf, yn gallu ennyn parch cydweithwyr ledled y DU. Byddwch yn deall anghenion a blaenoriaethau ymchwil GIG Cymru yn eich maes arbenigol ac yn hyrwyddo'r broses o gymryd rhan mewn astudiaethau. Bydd gennych y sgiliau i rwydweithio'n effeithiol, gan greu brwdfrydedd i gymryd rhan effeithiol mewn ymchwil ymysg eich cydweithwyr GIG yng Nghymru.

Am gefndir pellach, rhestr o dasgau allweddol, manyleb person a gwybodaeth am gymorth ariannol a chymorth arall, gweler Pecyn gwybodaeth Arweinwyr Arbenigedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

I ymgeisio, cwblhewch y ffurflen gais

Am ymholiadau anffurfiol cysylltwch â’r canlynol:

  • Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cymorth a Chyflenwi, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
  • Jayne Goodwin, Pennaeth Cenedlaethol Nyrsys Cyflenwi Ymchwil, Bydwragedd a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (NMAHPs), Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
  • Yvette Ellis, Pennaeth Cenedlaethol Gweithrediadau Cyflenwi Ymchwil, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Dyddiad cau ar gyfer ymgeisio: 17:00 ar 31 Ionawr 2025

Hysbysiad o’r canlyniad: Canol Chwefror 2025

Dyddiad cychwyn: 1 Ebrill 2025

Dylai ymgeiswyr nodi y gallant gael eu gwahodd i gyfweliad.