Two men sitting on an armchair together, one is wearing and pink jumper and is bald, the other is wearing a green jumper and has grey hair and glasses. They are looking at each other with a serious expression.

Symposiwm sy'n arddangos ymchwil hanfodol i gefnogi adferiad o'r pandemig i gymunedau yng Nghymru

28 Medi

Ffocws Symposiwm Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru a gynhaliwyd yr wythnos hon oedd yr adolygiadau tystiolaeth a chwaraeodd ran ganolog wrth lywio sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi cymunedau a wynebodd rai o effeithiau mwyaf negyddol y pandemig.

Gan ganolbwyntio ar y thema ‘Effaith Anghyfartal, Gwellhad Tecach’, bu siaradwyr yn trafod ymchwil ynghylch yr anghydraddoldebau a wynebir gan gymunedau LGBTQ+, menywod a merched a phobl anabl, a waethygwyd gan COVID-19.

Agorwyd y digwyddiad gan Brif Swyddog Meddygol Cymru, Syr Frank Atherton, a chafwyd presenoldeb100 o gynrychiolwyr. Dywedodd: “Mae cael y Ganolfan i dynnu’r ymchwil at ei gilydd wedi bod yn hollbwysig i Gymru. Mae’r Ganolfan wedi llywio trafodaethau tegwch, ac wedi ein helpu drwy daith anodd.

“Pan fyddaf yn meddwl am yr hyn y mae'r Ganolfan Dystiolaeth yn ei wneud... rwy'n meddwl ei bod wedi rhagori. Mae'r gwaith maen nhw wedi'i wneud yn wych.”

Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau yn y gymuned LGBTQ+

Drwy adolygu’r dystiolaeth ymchwil, canfu Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru fod y gymuned LGBTQ+ wedi cael profiadau gwaeth o ran iechyd meddwl a llesiant, ymddygiadau iechyd, diogelwch, unigrwydd, a mynediad at ofal iechyd na’r boblogaeth ehangach.

Mae canfyddiadau adolygiad y Ganolfan wedi bod yn hanfodol i ddatblygiad ‘Cynllun Gweithredu LGBTQ+ Cymru’ Llywodraeth Cymru. Nod y cynllun yw mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau presennol, herio gwahaniaethu a chreu cymdeithas lle mae pobl LGBTQ+ yn teimlo'n ddiogel.

Cefnogi menywod a merched

Yn ystod y pandemig, roedd menywod, yn enwedig y rhai o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, mewn mwy o berygl o gam-drin corfforol, gyda llai o fynediad i swyddi ac addysg, a chawsant brofiadau gwaeth o ran iechyd a llesiant.

Drwy eu hadolygiad o’r dystiolaeth ymchwil, roedd Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru yn gallu rhoi mewnbwn hanfodol i gynllun gweithredu newydd Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhwng y rhywiau.

Mae’r cynllun yn mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau y mae menywod a merched yn eu hwynebu ac yn nodi uchelgais Llywodraeth Cymru i sicrhau mwy o gydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru.

Effaith y pandemig ar bobl anabl

Dangosodd tystiolaeth a adolygwyd gan Ganolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru fod y rhai sy’n byw ag anabledd yn fwy tebygol o gael eu derbyn i ofal dwys ac o farw gyda COVID-19. Dangosodd astudiaethau fod defnyddio masgiau wyneb yn gwneud cyfathrebu'n anodd i bobl â nam ar eu clyw.

Ar ôl edrych ar yr ymchwil sydd ar gael, argymhellodd y Ganolfan fod angen mwy o ymchwil i werthuso cefnogaeth i bobl anabl yn ystod yr adferiad o'r pandemig.

Dywedodd yr Athro Adrian Edwards, Cyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru: “Roedd yn bandemig o anghydraddoldebau, a thynnodd sylw at nifer o fannau lle mae anghydraddoldebau’n dal i fodoli. Mae’n hanfodol ein bod yn deall sut mae’r pandemig wedi effeithio ar wahanol gymunedau yng Nghymru a pha fentrau sydd wedi bod yn effeithiol o ran eu cefnogi. Yna, gallwn flaenoriaethu camau gweithredu i leihau effeithiau’r pandemig yn awr ac yn y dyfodol.

“Mae’r dystiolaeth a ddarparwn yn y Ganolfan yn hollbwysig i helpu Gweinidogion Cymru wneud penderfyniadau polisi a all wella bywydau pobl Cymru. Mae’n anrhydedd bod yn rhan o rywbeth sydd â’r potensial i helpu cymaint o bobl.”

Roedd y digwyddiad hefyd yn arddangos adolygiadau tystiolaeth gan fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd - y cyfan wedi derbyn gradd dosbarth cyntaf - i'r anghydraddoldebau a wynebir gan garcharorion, pobl ddigartref a sut mae hiliaeth yn effeithio ar staff yn y GIG.

Darllenwch fwy o adroddiadau’r Ganolfan yn y llyfrgell adroddiadau a chofrestrwch i dderbyn Cylchlythyr Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru.