staff clinigol yn gweithio

Dyfarnu £2.4 miliwn o gyllid cyhoeddus i Rwydwaith UKCRF i gefnogi’r gwaith o gyflawni astudiaethau ymchwil cyfnod cynnar

18 Ionawr

Mae £2.4 miliwn o gyllid wedi ei ddyfarnu i Rwydwaith Cyfleusterau Ymchwil Clinigol y DU (Rhwydwaith UKCRF), a gynhelir gan Ymddiriedolaeth Sefydliad y GIG Prifysgol Manceinion (MFT), gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (NIHR) i gefnogi astudiaethau ymchwil yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Mae Rhwydwaith UKCRF yn gweithio ar y cyd â 54 o Gyfleusterau Ymchwil Glinigol (CRF) sydd wedi’u lleoli mewn Ymddiriedolaethau’r GIG ledled y DU ac Iwerddon. Mae hefyd yn cysylltu â seilwaith cyfnod cynnar allweddol a meddygaeth arbrofol gan gynnwys ar gyfer treialon canser a brechlynnau.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn aelod o rwydwaith UKCRF, ynghyd â sawl CRF arall yng Nghymru, gan wasanaethu fel aelodau a staff y gweithgorau. Dywedodd Jayne Goodwin, Pennaeth Cenedlaethol Cyflawni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

Mae hwn yn gyhoeddiad sydd i'w groesawu'n fawr. Rydyn ni’n elwa ar berthynas gydweithredol â rhwydwaith UKCRF sy'n rhoi mynediad i ni at adnoddau hyfforddi, mentoriaeth a chydweithio gyda diwydiant sy'n fuddiol i'n gwaith yng Nghymru."

Nod y rhwydwaith yw bod o fudd i ymchwil glinigol cyfnod cynnar a diwydiant gwyddorau bywyd y DU drwy ddatblygu, rhannu a gweithredu rhagoriaeth ym maes ymarfer gweithredol ar gyfer darparu treialon effeithlon ac effeithiol, profiad a diogelwch rhagorol i gleifion.

Arweiniodd Cyfarwyddwr Dros Dro Rhwydwaith UKCRF, Paul Brown, ar y cynnig llwyddiannus i’r NIHR ochr yn ochr ag MFT, Cyfarwyddwyr CRF a chydweithwyr yn y Rhwydwaith.

Dywedodd:

Rydyn ni wrth ein bodd i gyhoeddi bod y cais hwn wedi bod yn llwyddiannus, ac rydyn ni wedi cael cyllid NIHR yn swyddogol ar gyfer Rhwydwaith UKCRF rhwng 1 Mawrth 2023 a 28 Chwefror 2028.

Mae cyllid yr NIHR yn gynnydd sylweddol, sy’n dyst i’n strwythur cydweithredol ac yn arwydd o ffydd yn y gwaith hyd yma. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ehangu ein timau, eu cylch gwaith a pharhau â’n twf a’n llwyddiant yn ystod y pum mlynedd nesaf".

Mae’r 28 CRF NIHR yn perthyn i Rwydwaith UKCRF ac yn rhan allweddol o brif seilwaith ymchwil clinigol cyfnod cynnar y DU ac yn chwarae rhan bwysig wrth wneud y wlad yn ganolbwynt byd-eang ar gyfer gwyddorau bywyd.