claf a nyrs yn yr ystafell ymgynghori

Ymchwilwyr o Gymru i helpu i ddatblygu ap a allai wella ansawdd bywyd cleifion canser terfynol wael

15 Mehefin

Mae ymchwilwyr o Gymru yn rhan o dîm Ewropeaidd sydd wedi derbyn cyllid i greu ap a fydd yn helpu cleifion canser â salwch angheuol i wneud penderfyniadau gwybodus am eu meddyginiaeth. 

Mae llawer o gleifion â chanser yn derbyn meddyginiaeth i leihau gallu'r gwaed i geulo, gan leihau'r risg o thrombosis. 

Mae'r meddyginiaethau hyn, a elwir yn antithrombotig, yn aml yn cael eu parhau tan ddiwedd oes claf, er gwaethaf sgîl-effeithiau megis gwaedu, a'r ansawdd bywyd gostyngol cysylltiedig. 

Mae consortiwm Ewropeaidd, sy’n cael ei arwain ar y cyd gan Ganolfan Feddygol Prifysgol Leiden (LUMC) a Phrifysgol Caerdydd, wedi cael grant Horizon Europe o 6 miliwn ewro i greu ap ar-lein sy’n galluogi meddygon a chleifion i wneud penderfyniadau ar y cyd ynghylch parhau â’u meddyginiaeth gwrththrombotig, neu roi'r gorau iddi. 

Mae’r ap ar-lein yn cael ei ddatblygu drwy brosiect SERENITY, a arweinir gan Simon Noble, Athro Marie Curie mewn Meddygaeth Gefnogol a Lliniarol ym Mhrifysgol Caerdydd a deiliad grant Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ac Erik Klok, Athro Meddygaeth yn LUMC yn yr Iseldiroedd. 

Mae sefydliadau a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Canolfan Ymchwil Canser Cymru, Canolfan PRIME Cymru a Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) – i gyd yn rhan o’r prosiect. 

Bydd y cymorth penderfynu ar-lein a'r ap yn defnyddio cwestiynau i gychwyn y sgwrs rhwng meddyg a chlaf ac asesu risg unigol y claf o waedu a thrombosis. 

Dywedodd yr Athro Simon Noble: "Dim ond yn anaml y rhoddir y gorau i'r meddyginiaethau hyn yn ystod cyfnod olaf bywyd. Mae hyn oherwydd diffyg tystiolaeth wyddonol, ond hefyd oherwydd nad yw marwolaeth a marw yn aml yn cael eu trafod yn ddigonol gan y meddyg sy'n trin. 

"Rydyn ni eisiau teilwra'r ap cymaint â phosib i'r claf unigol. Bydd yn cymryd i ystyriaeth ffactorau fel rhyw, math o diwmor a hanes thrombosis / gwaedu yn y gorffennol. Bydd y cwestiynau yn yr ap yn cael eu haddasu yn unol â hynny. 

Ni fydd yr ap yn nodi a ddylai'r claf roi'r gorau i gymryd meddyginiaeth. 

"Nid yw’r ap yn rhoi cyngor ond mae’n gwneud rhoi’r gorau i feddyginiaeth yn agored i drafodaeth,” ychwanegodd yr Athro Noble. “Mae’r penderfyniad terfynol gyda’r claf, gan roi mwy o reolaeth iddynt dros eu proses afiechyd eu hunain. Yn bwysicaf oll, mae’n eu helpu i ystyried y dystiolaeth yng nghyd-destun eu hoffterau a’u gwerthoedd personol eu hunain.” 

Mae Prifysgol Caerdydd ac LUMC yn cydweithio â 14 o sefydliadau ar draws Ewrop i ddatblygu’r ap. Bydd dwy flynedd gyntaf y prosiect SERENITY yn cael ei neilltuo i ymchwil epidemiolegol ac ansoddol a datblygu'r ap. Bydd barn meddygon a chleifion yn ganolog i hyn.  

“Ar ôl hynny, byddwn yn profi’r ap yn ymarferol,” meddai’r Athro Noble. “Byddwn yn cymharu canlyniadau cleifion sydd wedi defnyddio’r ap â’r rhai nad ydynt wedi defnyddio’r ap. Ein disgwyliad yw y bydd yr ap yn arwain at ddefnydd priodol o feddyginiaeth antithrombotig, atal cymhlethdodau gwaedu ac arbedion cost sylweddol, yn ogystal â gwelliant yn ansawdd bywyd a boddhad cleifion â thriniaeth, eu gofalwyr a'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol dan sylw.” 

Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: 

“Mae’r math hwn o ymchwil yn hanfodol os ydym am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i driniaeth a gofal cleifion. Rwy’n falch o weld ein sefydliadau a ariennir yn cyfrannu at y gwaith ymchwil a datblygu'r ap hwn, a fydd yn y pen draw yn helpu cleifion a meddygon i wneud penderfyniadau gwybodus gyda’i gilydd.” 

Dywedodd yr Athro Annmarie Nelson, Arweinydd Rhaglen Profiad Cleifion Optimeiddiedig, Canolfan Ymchwil Canser Cymru ac Athro Gofal Lliniarol a Chefnogol Marie Curie: 

“Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o’r tîm rhyngwladol hwn sy’n gweithio gyda’r Athro Noble ar y pecyn gwaith ansoddol, sy’n casglu barn cleifion, teuluoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar draws pedair gwlad. Mae rhoi'r gorau i driniaeth yn bwnc sensitif ar ddiwedd oes i bawb dan sylw. Bydd ein gwaith gyda chleifion a theuluoedd yn dangos sut y gallwn leihau trallod posibl wrth ystyried opsiynau.” 

Dywedodd yr Athro Adrian Edwards, Cyfarwyddwr Canolfan PRIME Cymru: 

“Rydym wrth ein bodd y bydd yr ymchwil hwn yn defnyddio’r arbenigedd yn PRIME ar gyfer gofal sy’n canolbwyntio ar y claf, gwneud penderfyniadau ar y cyd a gofal lliniarol a chefnogol. Bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i gleifion a theuluoedd ar gyfnodau hynod anodd o fywyd a salwch drwy eu galluogi i wneud penderfyniadau triniaeth yn seiliedig ar yr hyn sydd bwysicaf iddyn nhw’n bersonol.” 

Dywedodd Ashley Akbari, Uwch Reolwr Ymchwil a Gwyddonydd Data Banc Data SAIL Prifysgol Abertawe: 

“Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect gwirioneddol arloesol hwn a fydd yn cynnwys ac yn cefnogi cleifion, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ymchwilwyr ac aelodau’r cyhoedd. Byddwn yn gallu trosoli’r data dienw cyfoethog ar lefel unigolion, ar raddfa’r boblogaeth, a gedwir yn SAIL, gan ddefnyddio amgylchedd ymchwil dibynadwy SAIL a grŵp Gwyddor Data Poblogaeth yn arbenigedd gwyddor data Prifysgol Abertawe, i werthuso beth fydd y prosiect hwn yn ei olygu i gleifion canser sy'n derbyn gofal diwedd oes."