Dr Jacinta Abraham

Dr Jacinta Abraham

Cyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu

Mae Dr Jacinta Abraham (Jaz) yn Oncolegydd Clinigol gyda dros 17 mlynedd o brofiad o drin canser y fron. Sefydlodd Fforwm a Chofrestrfa Amlddisgyblaethol Canser Eilaidd y Fron De Cymru ym mis Mawrth 2010, sef y cyntaf o’i fath yn y DU. Mae ymchwil glinigol wedi bod yn ganolbwynt iddi drwy gydol ei gyrfa ac fel Arweinydd Canser y Fron a Phrif Ymchwilydd, mae wedi arwain Felindre i fod yn un o brif recriwtwyr astudiaethau canser y fron.

Penodwyd Jaz yn Gyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ym mis Ionawr 2018 â chyfrifoldeb uniongyrchol dros Ganolfan Ganser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru. Yn ei rôl bresennol mae’n darparu Arweinyddiaeth Cyfarwyddwr Meddygol ar Fwrdd Rhaglen Partneriaeth Genomeg Cymru a Bwrdd Llywodraethu Cymru gyfan ar gyfer Therapïau Cell a Genynnau yng Nghymru. Hi hefyd yw Arweinydd Gweithredol yr Ymddiriedolaeth ar gyfer Ymchwil, Datblygu ac Arloesi a’i huchelgais yw arwain y sefydliad at ragoriaeth barhaus ym maes ymchwil.

Sefydliad

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

Cysylltwch â  Jacinta

E-bost

Ffôn: 02920 316964