Eisteddodd pedwar o bobl ar draeth yn edrych allan i'r dŵr

Nodi blaenoriaethau ymchwil ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, ac sydd ag anghenion emosiynol ac ymddygiadol heb eu diwallu yng Nghymru

17 Hydref

Ydych chi’n gweithio yn y maes hwn? Cymerwch ran yn ein harolwg!

Rydym yn gweithio gyda swyddogion polisi Llywodraeth Cymru ym meysydd iechyd, gwasanaethau cymdeithasol ac addysg ar ein prosiect blaenoriaethu ymchwil diweddaraf.

Diben yr arolwg hwn yw ein helpu i nodi blaenoriaethau ymchwil sy’n anelu at wella’r mynediad at ofal a chymorth cydgysylltiedig a’r modd y cânt eu darparu i blant a phobl ifanc (11-25 oed) sydd â phrofiad o ofal (mewn gofal, ar ffiniau gofal, neu’r rhai sy’n gadael gofal) ag anghenion emosiynol ac ymddygiadol heb eu diwallu.

Gwasanaethau sy’n darparu gofal a chymorth: gofal iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, a sefydliadau trydydd sector.

Ar gyfer y prosiect hwn, rydym yn defnyddio’r term “plant a phobl ifanc ag anghenion emosiynol ac ymddygiadol heb eu diwallu” i ddisgrifio’r rhai nad ydynt wedi cael diagnosis iechyd meddwl gan CAMHS/AMHS, ond sy’n cael anhawster i reoli eu hymddygiad a’u hemosiynau’n llwyddiannus.

Gallai’r emosiynau a’r ymddygiadau hyn gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i): ymddygiadau trallodus, aflonyddgar, gwrthgymdeithasol ac anghydweithredol, a straen a phryder uchel. Mae hyn yn cynnwys plant a phobl ifanc sy’n aros am ddiagnosis iechyd meddwl gan CAMHS/AMHS a’r rhai sydd â diagnosis niwrowahaniaethol, gan ein bod yn ymwybodol o’r gorgyffwrdd rhwng niwrowahaniaeth a bod ag anghenion emosiynol ac ymddygiadol heb eu diwallu.

Rydym eisiau gofyn i weithwyr proffesiynol sy’n darparu gofal a chymorth mewn gofal iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, a sefydliadau trydydd sector, a phlant a phobl ifanc eu hunain, rannu eu safbwyntiau â ni ar y canlynol:

  • beth yw eu pryderon mwyaf o ran darparu a mynediad at weithio cydgysylltiedig
  • a pha ymchwil neu dystiolaeth sydd ei angen i helpu gwasanaethau i gydgysylltu.

Cefndir y Prosiect

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddull ataliol o wella iechyd emosiynol a meddyliol pobl ifanc yng Nghymru, er enghraifft drwy’r Dull Ysgol Gyfan a fframwaith NYTH.

Gwyddom hefyd fod yr argyfwng costau byw a’r pandemig Covid 19, yn parhau i gael effaith ddofn ar iechyd meddwl a llesiant emosiynol y garfan hon o blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd am sicrhau bod cymorth ar gael pan fo angen, yn enwedig i’r rhai sydd fwyaf agored i niwed fel y rhai mewn gofal, a’r rhai sydd â chefndir teuluol cymhleth. Mae Llywodraeth Cymru’n gwybod o wrando ar blant, pobl ifanc ac ymarferwyr bod angen gwella’r cymorth a ddarperir i bobl ag anghenion emosiynol ac ymddygiadol heb eu diwallu nad oes ganddynt gyflwr iechyd meddwl y gellir gwneud diagnosis ohono, a bod angen ei wella a’i gydgysylltu’n well.

Gall ymchwil helpu i wneud y newidiadau sydd eu hangen trwy lenwi bylchau yn ein gwybodaeth. Er mwyn cynnal ymchwil defnyddiol, mae'n rhaid i ni wrando arnoch chi, plant a phobl ifanc a'r gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y maes hwn, i nodi'r pryderon a'r syniadau pwysicaf sydd gennych.

Pam ddylwn i gymryd rhan?

Pan fydd ymchwil yn digwydd yn y dyfodol, rydym eisiau iddo fod yn ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yng Nghymru ac sy’n gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a gânt.

Bydd canlyniadau'r arolygon a'r grwpiau trafod yn cael eu defnyddio i nodi'r 10 prif flaenoriaeth ymchwil y byddwn yn eu hyrwyddo i gyllidwyr ymchwil. Bydd y canfyddiadau hefyd yn cael eu defnyddio wrth ddatblygu Strategaeth Iechyd Meddwl Llywodraeth Cymru, a byddant yn cael eu rhannu â swyddogion polisi ar draws iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i lywio polisïau ar weithio integredig.

Cymerwch ran yn yr arolwg.

Beth ydym ni'n ei ofyn gennych chi?

Os ydych yn gweithio yn y maes hwn, cymerwch ran yn ein harolwg, anogwch eich cysylltiadau i gymryd rhan, a hyrwyddwch ef gyda chydweithwyr.

Dylai’r arolwg gael ei lenwi gan y rhai sy’n gweithio yng Nghymru gyda phlant a phobl ifanc 11-25 oed sydd â phrofiad o ofal ac sydd ag anghenion emosiynol ac ymddygiadol heb eu diwallu. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr rheng flaen a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau strategol yn unrhyw un o'r canlynol:

  • Gwasanaethau statudol: byrddau iechyd, awdurdodau lleol (gwasanaethau cymdeithasol), addysg (ysgolion, addysg bellach, addysg uwch)
  • Sefydliadau trydydd sector sy'n darparu gofal a chymorth
  • Gwasanaethau ataliol (e.e. y rhwydwaith ehangach o allgymorth a chymorth)

Dylai'r arolwg gymryd tua 15 munud, ond nid yw'n broblem os yw'n cymryd mwy o amser i chi -  bydd ar agor o 17 Hydref i 7 Tachwedd
.

Mae cymryd rhan yn yr arolwg hwn yn wirfoddol, a bydd eich atebion yn cael eu cadw'n gyfrinachol. Gweler yr Hysbysiad Preifatrwydd.

Rydym yn hapus i dderbyn cyflwyniadau yn seiliedig ar drafodaethau grŵp am gwestiynau’r arolwg, yn enwedig ar gyfer y rhai nad ydynt yn gallu cwblhau arolwg ar-lein. Os gallwch chi gydweithio â ni a helpu i hyrwyddo'r arolwg mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â ni josie.jackson001@gov.wales  

Rydym yn cynnal trafodaethau ar y pwnc hwn gyda phlant a phobl ifanc i glywed eu llais a byddwn hefyd yn dadansoddi eu hymatebion o ymgynghoriadau perthnasol yn y gorffennol, yn hytrach na gwneud hyn drwy arolwg. Gweler yr Hysbysiad Preifatrwydd i grwpiau trafod.

Y Camau Nesaf

Byddwn yn cyfuno allbynnau’r arolwg, y trafodaethau gyda phlant a phobl ifanc, ac allbynnau ymgynghoriadau’r gorffennol, i nodi themâu a phynciau.

Yna byddwn yn cyflwyno’r themâu/pynciau hyn yn ôl i ymarferwyr, a phlant a phobl ifanc i ddewis eu themâu a’u pynciau pwysicaf gan ddefnyddio ail arolwg a grwpiau trafod.

Yna byddwn yn cynnal gweithdy rhithwir gyda phlant a phobl ifanc, ac ymarferwyr i ddewis y Deg Blaenoriaeth Uchaf.

Unwaith y byddwn wedi cyrraedd y Deg Uchaf byddwn yn cyflwyno'r rhain i ymchwilwyr a chyllidwyr ymchwil.

I gymryd rhan yng nghamau nesaf y prosiect hwn fel ymarferwr, mae cyfle ar ddiwedd yr arolwg i roi eich gwybodaeth gyswllt.

Bydd plant a phobl ifanc yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yng nghamau nesaf y prosiect trwy hwyluswyr eu grwpiau trafod.

Gallwch gwblhau’r arolwg yma.