Adolygiad cyflym o ba fodelau gweithlu arloesol sydd wedi helpu i gynyddu galluedd ar gyfer gofal yn y gymuned yn gyflym i helpu oedolion hŷn i adael yr ysbyty?
Pa fodelau gweithlu arloesol sydd wedi helpu i gynyddu galluedd ar gyfer gofal yn y gymuned i helpu oedolion hŷn i adael yr ysbyty?
Trosolwg
Bu’r tîm ymchwil yn yr Uned Arbenigol ar gyfer Tystiolaeth Adolygu (SURE, Prifysgol Caerdydd) a Chanolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru (WCEC) yn gwneud adolygiad cyflym o dystiolaeth sy’n bodoli. Gwnaed cais am yr adolygiad hwn gan sefydliadau Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).
Cyd-destun
Mae’n bosibl bod ar oedolion hŷn sydd wedi bod yn yr ysbyty ac sydd nawr yn feddygol ffit i’w ‘rhyddhau’ angen gofal ychwanegol i ddychwelyd ac ymsefydlu gartref. Mae aros yn hir yn yr ysbyty’n gallu bod yn beryglus i oedolion hŷn gan fod yna fwy o bosibilrwydd y byddan nhw’n dal haint ysbyty. Gall cleifion hefyd ei chael hi’n anodd dychwelyd i ymdopi ar eu pennau eu hunain adref. Mae oedi cyn rhyddhau yn ddrwg i’r claf unigol ac i’r ysbyty/ GIG fel cyfanwaith, gan nad oes modd derbyn cleifion eraill pan fo angen.
Nod
Nod yr astudiaeth hon oedd gweld a oes yna ddulliau’n bodoli i helpu i feithrin galluedd yn gyflym, ar gyfer ‘gofal cymunedol’ pan fydd oedolion hŷn yn gadael yr ysbyty.
Dulliau
Bu’r tîm ymchwil yn adolygu 19 o astudiaethau a oedd yn gwerthuso pum maes gwahanol posibl i’w gwella.
Darganfyddiadau
Daeth yr ymchwilwyr i’r casgliad nad oes yna ddigon o dystiolaeth o ansawdd da ar hyn o bryd i ddarparu ateb clir i’r prif gwestiwn ymchwil.
Yr ymyriadau a oedd fwyaf addawol oedd ‘cymorth i gleifion a ryddheir yn gynnar’ a ‘sicrhau gofal parhaus yn ystod y cyfnod rhyddhau’.
Mae’r dystiolaeth yn awgrymu po fwyaf o gefnogaeth y mae oedolyn hŷn yn ei derbyn i symud i’w cartref o’r ysbyty, gorau oll y deilliannau. Byddai ymchwil bellach yn helpu i nodi’r dull gorau o fynd ati i sicrhau cyn lleied â phosibl o oedi wrth ryddhau.
Mae canolbwyntio ar y claf fel unigolyn hefyd, i bob golwg, yn bwysig iawn mewn pontio llwyddiannus. Mae hyn yn effeithio ar staffio ac mae’n rhaid iddo fod yn gost-effeithiol felly bydd yn galw am gefnogaeth byrddau iechyd lleol, awdurdodau lleol a’r sector gwirfoddol. Mae’n rhaid cynllunio’n dda y gwaith ychwanegol y bydd galw i’r gwasanaethau cymdeithasol a’r gwasanaethau iechyd ei wneud.
Casgliad
Nid yw unrhyw un dull wedi’i brofi i sicrhau y deilliannau gorau i gleifion. Mae angen rhagor o ymchwil a buddsoddiad yn y maes hwn.
Mae’r adolygiad hwn yn dwyn sylw at yr angen am ddull safonedig sy’n helpu i gefnogi’r gofal gorau posibl i oedolion hŷn sy’n gadael yr ysbyty.
Bydd hyn yn galw am ymrwymiad pawb dan sylw, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a’r sector gwirfoddol i’n helpu i baratoi ar gyfer unrhyw bandemigau posibl yn y dyfodol.
Awdur cryno: Robert Hall, cynrychiolydd y Claf a'r Grŵp Cyhoeddus
RR00039