Grafig

Adroddiad Arolwg Cydnerthedd Treialon Clinigol wedi’i gyhoeddi

22 Ionawr

Mae’r Gyfadran Meddygaeth Fferyllol (FPM) wedi cyhoeddi ei Arolwg Cydnerthedd Treialon Clinigol.

Ymgymerwyd â’r arolwg i ddeall y pwysau ar dreialon clinigol yn sgil y pandemig COVID-19, a’r addasu a’r arloesi y mae’r rheini sy’n gweithio ym maes meddygaeth fferyllol wedi gorfod ei wneud o ganlyniad.

Mae’r adroddiad wedi’i seilio ar ganlyniadau arolwg o aelodau’r FPM a’r rheini nad ydyn nhw’n aelodau.

Darganfyddiadau allweddol:

  • Dywedodd dros hanner y rheini a ymatebodd eu bod nhw yn bersonol, neu eu cwmni, wedi bod yn datblygu triniaethau neu frechlynnau ar gyfer COVID-19
  • Dywedodd 79% o bawb a ymatebodd fod y pandemig wedi effeithio ar raglenni ymchwil glinigol eraill yn eu sefydliad
  • Dywedodd bron pawb a ymatebodd eu bod wedi defnyddio technolegau rhithiol neu ddigidol i sicrhau bod treialon yn dal i redeg ac i gadw cleifion ac ymchwilwyr yn ddiogel
  • Canmolodd y rheini a ymatebodd o’r sector fferyllol a’r sector gwasanaethu gyflymder a hyblygrwydd asiantaethau rheoleiddio rownd y byd
  • Dywedodd bron hanner y rheini a ymatebodd fod y pandemig wedi effeithio ar weithdrefnau gweithredu safonol eu sefydliad ar gyfer rhaglenni clinigol a gwaith dylunio treialon

Gellir darllen yr adroddiad llawn ar wefan y Gyfadran Meddygaeth Fferyllol.