Adroddiad blynyddol

Adroddiad blynyddol newydd yn pwysleisio bod ymchwil yn ‘bwysicach nag erioed’

22 Hydref

Amlygir pwysigrwydd ymchwil yn ystod pandemig COVID-19 yn Adroddiad Blynyddol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2019/2020, a gyhoeddwyd heddiw (30 Hydref).

Mae’r adroddiad hefyd yn arddangos effaith ein grantiau ymchwil a gwaith ein cymuned ymchwil a ariennir, yn ogystal â'r ymchwil sy'n digwydd ym myrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG.

Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

"Mae'r adroddiad hwn yn cwmpasu blwyddyn ariannol 2019/20, ond wrth gwrs ym mis Chwefror 2020 fe wnaeth y pandemig COVID-19 achosi newid cyflym a sylfaenol i'r GIG a'r system ofal, ac i fyd ymchwil iechyd a gofal.

"Ni fu ymchwil erioed yn bwysicach nac yn fwy canolog i bolisi cyhoeddus, ac mae'r system iechyd a gofal wedi ymateb mewn modd ardderchog drwy ddarparu ymchwil ar driniaethau ar gyfer COVID-19, datblygu brechlynnau, a rheoli'r pandemig yn effeithiol ar gyflymder a graddfa sy'n wirioneddol ddigynsail. "

Mae manteision cydweithio, gan ddefnyddio dull Cymru gyfan, hefyd yn thema gyffredin drwy’r holl adroddiad.

Ychwanegodd yr Athro Walshe:

"Mae adran olaf yr adroddiad hwn yn amlinellu'r ffordd ymlaen ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a rhai myfyrdodau cynnar ar y gwersi sydd i'w dysgu o'r pandemig.

"Mae’n rhaid i ni beidio â bychanu maint yr her, na'r gwobrau posibl. Gan weithio gyda'n gilydd, gallwn wireddu'r syniad bod ymchwil heddiw yn arwain at ofal yfory."

Mae'r adroddiad blynyddol yn dilyn cyhoeddi dau adroddiad arall yn ddiweddar: Gwneud gwahaniaeth: effaith ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru ac Impact and value of research supported by NHS organisations in Wales:adroddiad gan KPMG a gomisiynwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.