Staff clinigol yn gweithio

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn croesawu adroddiad newydd ar y sector treialon clinigol masnachol

26 Mai

Mae adolygiad mawr a gyhoeddwyd heddiw (dydd Gwener 26 Mai) yn darparu argymhellion ar sut y gall treialon clinigol masnachol helpu'r sector gwyddorau bywyd i ddatgloi cyfleoedd twf a buddsoddiad y DU. Mae hefyd yn cynghori ar sut i ddatrys heriau allweddol wrth gynnal treialon clinigol masnachol yn y DU.

Cafodd yr Arglwydd James O'Shaughnessy ei benodi gan Lywodraeth y DU ym mis Chwefror i gynnal yr adolygiad annibynnol.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

Mae ymchwil glinigol yn chwarae rhan hanfodol yn natblygiad triniaethau achub bywyd newydd a gwella bywyd. Heddiw rydym yn croesawu adroddiad ac argymhellion gan yr Arglwydd O'Shaughnessy am y sector treialon clinigol masnachol. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid yng Nghymru ac ar draws y DU i ystyried yr argymhellion."

Ers cyhoeddi'r strategaeth ymchwil glinigol ledled y DU yn 2001,  mae pedair gwlad y DU wedi bod yn gweithio ar y cyd â'r GIG, diwydiant a llunwyr polisi i greu amgylchedd ymchwil clinigol sy'n canolbwyntio ar gleifion, o blaid arloesi ac wedi'i alluogi'n ddigidol i ddechrau mynd i'r afael â rhai o'r materion allweddol a gynhwysir yn yr adroddiad heddiw. Mae hyn yn cynnwys cynnydd o ran mynd i'r afael â chyflymder ac effeithlonrwydd trefnu astudiaethau, cyflymu costio, contractio a chymeradwyo, sicrhau mynediad at ymchwil a chymryd rhan ynddo mor hawdd â phosibl i bawb ledled y DU, ac adeiladu ar lwyfannau digidol i gyflwyno ymchwil glinigol.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn ddiolchgar i'r gymuned Ymchwil a Datblygu yng Nghymru am eu gwaith caled yn cefnogi'r cynnydd a wnaed hyd yma ac yn edrych ymlaen at ystyried argymhellion yr adolygiad gyda nhw.

Dywedodd Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yr Athro Kieran Walshe:

Mae'n hanfodol bod y DU yn uchelgeisiol yn ei chynlluniau ar gyfer ymchwil fasnachol i sicrhau bod yr holl gyfleoedd ar gyfer twf a buddsoddiadau yn cael eu gwneud, yn ogystal â sicrhau bod y DU yn gallu cynnig mynediad i gleifion at driniaethau a thechnolegau arbrofol newydd. Rydym yn croesawu'r adolygiad a bydd Cymru'n chwarae ei rhan, gan weithio'n agos gyda'r cenhedloedd eraill, i gymryd camau beiddgar i wella cynnig masnachol y DU."