Nyrs ymchwil yn gweithio ar liniadur

Aelodaeth mynediad agored newydd yn caniatáu i ymchwilwyr rannu canlyniadau’n haws

18 Mai

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi ymuno â 35 o gyllidwyr eraill i fod yn un o aelodau diweddaraf Europe PMC, ystorfa gwyddorau bywyd sy’n rhoi mynediad agored i fwy na 40 miliwn o erthyglau.  

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod canlyniadau’r ymchwil y mae’n ei hariannu ar gael i gynifer o bobl â phosibl.  

Mae bod yn aelod o Europe PMC yn golygu y gall ymchwilwyr gyflwyno eu llawysgrif am ddim.  

Dywedodd Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: 

"Rydym ni o’r farn bod cyhoeddi mynediad agored yn hanfodol gan ei fod yn annog rhannu gwybodaeth yn amserol, yn atal dyblygu a gwastraff, ac yn y pen draw yn cynyddu effaith a dilyniant ymchwil.  

"Mae hwn yn gam pwysig o ran galluogi ein hymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol i rannu eu canlyniadau’n haws, fel y gall eu hymchwil gael mwy o fanteision i’r gymuned ymchwil ac i iechyd a gofal cymdeithasol. 

"Bydd ein polisi mynediad agored newydd, a ddaw i rym ar 1 Medi 2022, yn golygu y bydd 100 y cant o erthyglau cyfnodolion cyhoeddedig, sy’n codi o’n cyllid ni, ar gael yn agored yn syth ar ôl eu cyhoeddi." 

Darllenwch ein polisi mynediad agored a gwybodaeth am gyhoeddi erthygl mynediad agored  

I gael rhagor o wybodaeth am y polisi neu Europe PMC, cysylltwch â’r tîm grantiau

Am fwy o newyddion gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol