Aelodau o'r cyhoedd yng Nghymru yn helpu i lansio adroddiad newydd sy'n dangos pa mor hanfodol yw cynnwys cleifion mewn ymchwil COVID-19
22 Ionawr
Mae aelodau yng Nghymru o Gymuned Ymgysylltu Cyhoeddus Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi helpu i lansio adroddiad newydd sy’n dangos bod cynnwys cleifion wrth ddylunio astudiaethau yn hanfodol i ymchwil COVID-19.
Mae Adele Battaglia o Gasnewydd a Mari James o Sir Benfro, yn ddwy o nifer o aelodau o’r cyhoedd wnaeth gyfrannu eu hamser a’u profiad i adroddiad newydd dan arweiniad yr Awdurdod Ymchwil Iechyd.
Mae’r adroddiad ‘Public Involvement in a Pandemic’ yn dangos sut mae cynnwys cleifion a’r cyhoedd mewn ymchwil COVID-19 yn gwella’r ymchwil yn ogystal ag yn dangos gwerth o ran recriwtio cleifion i dreialon a’u cadw nhw.
Ar gychwyn y pandemig, 22 y cant yn unig o’r astudiaethau COVID-19 a oedd wedi gwneud cais am gymeradwyaeth gyflym gan yr Awdurdod Ymchwil Iechyd wnaeth ymgynghori â chleifion wrth ddylunio eu hastudiaethau.
Fe wnaeth yr Awdurdod Ymchwil Iechyd weithio gyda phartneriaid ledled y DU, gan gynnwys Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, i sefydlu gwasanaeth paru COVID-19 wnaeth gysylltu ymchwilwyr â chyfranogwyr o’r cyhoedd a allai ddarparu adborth a mewnbwn i astudiaethau ymchwil COVID-19 yn gyflym cyn iddynt ddod at yr Awdurdod Ymchwil Iechyd am gymeradwyaeth. Mae’r gwasanaeth hwn, ar y cyd ag ymyriadau eraill wedi helpu i wella ymgysylltiad â chleifion ac erbyn mis Awst 2020 roedd dros 85% o astudiaethau COVID-19 yn cynnwys cleifion, gan helpu i wella ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae’r adroddiad newydd o’r enw Public Involvement in a Pandemic: lessons from the UK COVID-19 Public Involvement Matching Service, yn myfyrio ar sut y cyflawnwyd y gwelliant enfawr hwnnw o ran ymgysylltu â’r cyhoedd.
Mae Adele a Mari yn aelodau o Gymuned Ymgysylltu Cyhoeddus Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, maen nhw wedi bod yn rhan o’r gwasanaeth paru cyhoeddus COVID-19 ac fe wnaethon nhw siarad mewn cynhadledd rithwir i lansio’r adroddiad ar 13 Ionawr.
Dywedodd Adele, sydd hefyd yn gyn-fydwraig/nyrs ac addysgydd GIG: “Mae cynnwys cleifion yn ychwanegu at hygrededd astudiaethau COVID-19 ac mae’n helpu i gryfhau’r ymchwil.
“Os ydych chi eisiau i gleifion neu aelodau o’r cyhoedd fod yn rhan o’ch astudiaeth, mae angen iddyn nhw eich deall chi a pheidio â bod ofn yr wybodaeth. Roeddwn i yn gallu helpu trwy wneud sylwadau ar ddogfennau cleifion ac awgrymu newidiadau i derminoleg a jargon ymchwil”
Dywedodd Mari James, a gymerodd ran yn y gwasanaeth paru ac sy’n Gadeirydd Grŵp Defnyddwyr Gwasanaeth Gofal Sylfaenol a Brys Ymchwil; Iechyd a Gofal Cymru, “Fe wnes i gymryd rhan fel cyfranogwr cyhoeddus, rhan o Gymuned Ymgysylltu Cyhoeddus Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ar ôl bod yn ofalwr i’m diweddar fam yn fy nghartref yn ei blynyddoedd olaf. Roeddwn i eisiau defnyddio ychydig o’r profiad go iawn hwn i helpu i ddylunio ymchwil mewn gofal lliniarol a meysydd iechyd eraill.
“Pan anfonwyd y darn cyntaf o ddogfennaeth cleifion am dreialon meddyginiaeth COVID-19 i mi i’w adolygu, roedd yr amserlen yn dynn ond buom yn gweithio'n gyflym i ychwanegu adborth. Roedd yr wybodaeth i’r claf yn eithaf anodd a dwys. Ni fyddai wedi bod yn ddefnyddiol ei roi i gleifion sy’n agored i niwed ar gam sensitif o’u salwch. Roeddwn yn gallu gwneud argymhellion i helpu i'w gwneud yn haws i gleifion ei ddeall.
“Rwy’n gobeithio y bydd mwy o ymchwilwyr yn gweld ei bod o fudd cynnwys cleifion ac aelodau o’r cyhoedd yn eu hymchwil.”
Mae'r Awdurdod Ymchwil Iechyd ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru bellach yn galw ar fwy o noddwyr a chyllidwyr i chwarae eu rhan wrth fynnu ar gynnwys y cyhoedd yn eu hastudiaethau ymchwil COVID-19 ac astudiaethau eraill ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Dywedodd Rebecca Burns, Rheolwr Ymgysylltiad Cyhoeddus yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, “Gwelsom wir bwysigrwydd cefnogi’r Awdurdod Ymchwil Iechyd yn yr ymdrech genedlaethol hon i sicrhau cyfranogiad cyhoeddus da mewn ymchwil COVID-19, er mwyn sicrhau canlyniadau ystyrlon ac effeithiol.
“Roeddem ni wedi addasu ein prosesau yng Nghymru i weithio'n ymatebol ac yn gyflym ac roeddem ni eisiau rhannu'r profiad hwnnw er mwyn bod gan bobl sy’n byw yng Nghymru y cyfle i gymryd rhan ac er mwyn i safbwynt Cymru gael ei glywed.”
Dywedodd Juliet Tizzard, Cyfarwyddwr Polisi a Phartneriaethau yr Awdurdod Ymchwil Iechyd: ‘Mae’r ymdrech gydweithredol i sefydlu a rhedeg y gwasanaeth paru wedi dangos bod gan y system y gallu i ymateb yn addas i gefnogi cynnwys y cyhoedd yn gymesur ac yn effeithiol o dan unrhyw amgylchiadau.
‘Fe ddangosodd bod cynnwys y cyhoedd yn gallu dod yn rhan arferol o’r broses, cyn belled â bod cydweithio, cyfathrebu a rhannu gwybodaeth effeithiol ar draws y system. Os gellir parhau â hyn, yna nid oes unrhyw reswm pam na fydd cynnwys y cyhoedd yn rhan arferol o waith noddwyr ac arianwyr yr holl ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU.’