Dr Haroon Ahmed

Dr Haroon Ahmed

Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

Gwobr: Rhaglen Cymrodoriaeth y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (2020 - 2023)

Teitl y prosiect: Antibiotic treatment and major bleeding in anticoagulant medication users: analysis of health record data to support safer monitoring and prescribing


Bywgraffiad

Mae Dr Haroon Ahmed yn academydd clinigol â 19 mlynedd o brofiad yn y GIG. Mae’n gweithio fel meddyg teulu yng Nghaerdydd ac yn arwain gwaith ymchwil i heintiau, stiwardiaeth gwrthfiotigau, ac aml-afiachedd yn yr Is-adran Meddygaeth Poblogaeth a Chanolfan PRIME Cymru. Mae’r rhan fwyaf o’i waith ymchwil yn cynnwys dadansoddi data iechyd cysylltiedig ac mae’n gweithio’n agos gyda chronfa ddata SAIL ac yn defnyddio data gan Clinical Practice Research Datalink (CPRD) a QResearch.

Mae’n gweithio’n agos gydag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) i gael tystiolaeth am reoli heintiau i ganllawiau ar gyfer clinigwyr. Mae Haroon wedi meddu ar Gymrodoriaethau olynol (Doethurol ac Uwch) gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR).

Mae’n chwarae rhan fawr mewn cynorthwyo academyddion clinigol gyrfa gynnar, gan arwain, Cynllun Cymrodyr Academaidd Caerdydd i Feddygon Teulu a chyd-arwain cohort Caerdydd Trac Academaidd Clinigol Cymru (WCAT).


 

Sefydliad

GP & Senior Lecturer at Cardiff University

Cyswllt Haroon

E-bost

Twitter