grŵp o bobl â swigod meddwl

Ailfeddwl am Adolygu Moeseg - ymgynghoriad cyhoeddus

Ynglŷn â’r ymgynghoriad

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi bod yn cael sgwrs ynglŷn â sut y gallem wneud gwaith adolygu moeseg yn fwy llyfn a chymesur. Rydym wedi siarad â phobl sy’n gweithio ym maes ymchwil ac ar bwyllgorau moeseg i glywed am eu barn ynglŷn â’r hyn sy’n gweithio yn y gwasanaeth presennol a’r hyn a allai weithio’n well. Rydym hefyd wedi siarad â noddwyr (yr unigolyn, sefydliad neu bartneriaeth sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol am brosiect ymchwil).

Dyma a glywsom:

  • mae rhai ymchwilwyr a noddwyr yn teimlo bod yna rwystrau a beichiau diangen mewn gwaith adolygu moeseg, gan arwain at fiwrocratiaeth ychwanegol a llinellau amser adolygu hirach
  • mae rhai aelodau pwyllgorau’n teimlo bod eu llwyth gwaith yn rhy drwm ac yn cymryd gormod o amser
  • mae aelodau’r cyhoedd eisiau i ni ddefnyddio arbenigedd ac amser aelodau pwyllgorau’n well

Rydym nawr eisiau ehangu’r sgwrs, a’r ymgynghoriad hwn yw’r cam nesaf. Ar sail yr hyn rydym wedi’i glywed hyd yma, rydym wedi datblygu rhai syniadau ynglŷn â sut y gallem ailfeddwl am adolygu moeseg, er mwyn gwella’r siwrnai ymgeisio a hefyd yr adolygiad ei hun. Rydym nawr eisiau clywed oddi wrthych chi.

Ein syniadau:

  • cyflwyno offeryn i gefnogi ymchwilwyr i feddwl yn fwy moesegol 
  • defnyddio gwaith adolygu moeseg gan staff Gwasanaeth Moeseg Ymchwil arbenigol
  • dirprwyo gwaith adolygu moeseg ar gyfer astudiaethau o fewn rhaglen ymchwil

Rydym yn gobeithio mireinio’r siwrnai bresennol ar gyfer ceisiadau, gan fabwysiadu arfer craffu ar lefelau uwch, yn ôl natur yr ymchwil a’r materion moesegol y mae’n eu codi.

Mae gwneud yn siŵr bod ymchwil o ansawdd da yn digwydd yn golygu y gall tystiolaeth ddibynadwy fod o fudd i’r GIG. Bydd y bobl ymroddedig sydd ar bwyllgorau’n parhau i fod yn ganolog i’r nod hwn. Yn achos astudiaethau sy’n uwch eu risg ac sydd â materion moesegol mwy sylweddol, yna pwyllgor fydd y dull adolygu mwyaf priodol. Ymhlith yr astudiaethau hynny mae:

  • treialon clinigol sy’n edrych ar feddyginiaethau (o’r enw CTIMPs) a dyfeisiau meddygol
  • astudiaethau sy’n cynnwys oedolion sy’n methu â chydsynio drostynt eu hunain
  • astudiaethau sy’n defnyddio ymbelydredd ïoneiddio (pelydrau-x a sganiau CT, er enghraifft) sy’n ychwanegol at ofal clinigol safonol
  • astudiaethau sy’n cynnwys pobl mewn rhai cartrefi gofal preswyl ac amgylcheddau gofal cymdeithasol

Beth sydd y tu allan i gwmpas yr ymgynghoriad hwn?

Trwy’r ymgynghoriad hwn, nid ydym yn cynnig newidiadau i adolygiadau ymchwil eraill, fel asesiadau llywodraethu ac asesiadau cyfreithiol neu adolygiadau gan gyrff eraill, na newidiadau i’r porth ymgeisio, IRAS. Nid ydym ychwaith yn gofyn am newidiadau sy’n cael eu hystyried yn ddiweddarach yn Meddwl am Foeseg, fel sut y mae Pwyllgorau Moeseg Ymchwil yn gwneud penderfyniadau a phwy sy’n dod yn aelodau.

Mae’ch barn chi yn bwysig

Rydym eisiau clywed oddi wrthych chi. Boed yn aelod o’r cyhoedd, yn aelod o Bwyllgor Moeseg Ymchwil ar hyn o bryd neu o’r blaen, yn staff sydd a wnelo ag adolygu ymchwil, yn ymchwilydd, yn sefydliad ymchwil neu’n rhywun sydd wedi cymryd rhan mewn astudiaeth, mae'ch barn chi yn bwysig i ni.

Rydym eisiau i’r syniadau a gyflwynir yma sbarduno trafodaethau, er mwyn ystyried sut y gallwn ni barhau i wella.

Mae’r ymgynghoriad yn cynnwys arolwg ar-lein a gweithdai cyhoeddus.

Datblygu ein syniadau

Rydym wedi gweithio’n agos â grŵp cynghori i’n helpu i ddatblygu’r syniadau hyn. Rydym hefyd wedi casglu adborth anffurfiol oddi wrth amrywiaeth o bobl sydd â diddordeb. Mae’r adborth hwn wedi caniatáu i ni ddeall yn well rhai o faterion neu ganlyniadau anfwriadol sy’n codi yn sgil ein cynigion.

Roedd un o’n syniadau cyntaf yn cynnwys gwaith adolygu moeseg ar gyfer ysbytai a phrifysgolion sy’n cynnal ymchwil. Gallai’r syniad hwn fod wedi gweld yr HRA a’n partneriaid yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban yn dirprwyo gwaith adolygu moeseg ar gyfer rhai mathau penodol o ymchwil i sefydliadau sy’n bodloni set benodol o safonau, ond rydym wedi penderfynu na fyddwn yn ymgynghori ynglŷn â’r syniad hwn am y tro. Trwy drafodaethau anffurfiol â chynrychiolwyr sefydliadau, fe glywsom fod nawr yn amser gwaith dwys wrth i ymchwil ddechrau adfer o’r pandemig, ac y gallai newid i drefniadau lle ceir sefydliadau’n adolygu aflonyddu ar bethau a chynyddu llwyth gwaith ar gyfer sefydliadau.

Ar ôl yr ymgynghoriad

Mae i’r syniadau hyn y potensial i newid gwaith adolygu moeseg yn y DU. Rydym eisiau bod yn siŵr bod y buddion yn sgil newid yn fwy na’r risgiau a’n bod wedi ystyried y canlyniadau tebygol yn drylwyr.

Ar hyn o bryd, nid ydym yn gofyn am farn ar sut y gallai’r syniadau hyn weithio’n ymarferol. Ar ôl yr ymgynghoriad, byddwn yn dadansoddi’r holl ymatebion ac yn cyflwyno argymhellion i’r Gwasanaeth Moeseg Ymchwil ar y cyd â’n partneriaid yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Byddwn ni yna’n rhoi’r dulliau newydd hyn o weithredu ar brawf a byddant yn destun cynllun peilot. Byddwn ni’n cyhoeddi deilliant ein hymgynghoriad cyn gynted ag y bydd wedi dod i ben ar 23 Medi 2022.