Adolygiad cyflym o systemau hidlo aer atodol mewn lleoliadau gofal iechyd

Cyd-destun

Mae COVID-19 yn gallu ymledu trwy’r aer a sefyllian mewn gofod am gymaint â thair awr.  Er mwyn lleihau’r ymledu hwn, yn enwedig mewn lleoliadau gofal iechyd (fel ysbytai a chlinigau deintyddol), mae Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru wedi bod yn gwneud ymchwil i ddeall buddion ‘systemau hidlo aer atodol’ i lanhau’r aer o’r gronynnau COVID-19 heintus hyn.

Nod

Nod yr adolygiad hwn yw deall pa mor effeithiol y mae’r dyfeisio hidlo hyn yn gallu bod i dynnu COVID-19 o’r aer mewn ystafell.  Y gobaith yw y bydd hyn yn gwella deilliannau ar gyfer cleifion yn yr ysbyty ac mewn lleoliadau gofal iechyd eraill.

Dulliau

Adolygwyd amrywiaeth o astudiaethau a oedd yn bodoli yn edrych ar ddefnyddio systemau hidlo aer ledled y byd. Roedd y rhain yn cynnwys astudiaethau’n edrych ar fuddion systemau hidlo aer mewn clinigau deintyddol, yn ogystal â rhai ysbytai yn y DU a Sweden. Mae gan rai o’r astudiaethau risg uchel o duedd.

Darganfyddiadau

Mae’r dystiolaeth i gefnogi defnyddio systemau hidlo aer yn gyfyngedig ar hyn o bryd ond, i bob golwg, mae’n dangos eu bod yn gallu bod o fudd i leihau nifer y gronynnau COVID-19 mewn ystafell, a lleihau’r cyfraddau trosglwyddo cysylltiedig mewn lleoliadau gofal iechyd. Gan fod rhai o’r astudiaethau o ansawdd is, mae hi dal yn bwysig gwneud ymchwil bellach i ddeall gwir fuddion systemau hidlo aer. O’r dyfeisiau a adolygwyd, mae’n ymddangos mai hidlwr HEPA (Aer Gronynnol Hynod Effeithiol) a golau uwchfioled sy’n darparu’r deilliannau gorau.

Casgliad

Mae hwn yn fater cymhleth ac mae angen mwy o ymchwil er eglurder. Mae’n debyg bod defnyddio dwy system wahanol gyda’i gilydd yn darparu canlyniadau gwell na defnyddio un ar ei phen ei hun. Gallai cyfuno’r systemau hyn ag awyru helaeth fod yn ddefnyddiol iawn. Mae lleoliad systemau’n gallu cael effaith fawr ar ba mor dda y maen nhw’n gweithio i lanhau’r aer.

Goblygiadau i Bolisi

Mae angen ystyried cost-effeithiolrwydd wrth gyflwyno’r dyfeisiau cludadwy hyn neu newid systemau sydd eisoes yn bodoli.

Read the full report.

Awdur cryno: Robert Hall

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RR00041