Liza Turton presenting on stage.

Allan o'r cyfnodolyn ac i mewn i ofal cymdeithasol - Liza Turton

21 Hydref

Mae ymarfer sy'n seiliedig ar ymchwil yn cael ei gydnabod yn eang fel y safon aur, ond mae ei wreiddio i ymarfer bob dydd ar gyfer ymarferwyr gofal cymdeithasol prysur wedi bod yn her erioed. 

Rhowch eich hun mewn i esgidiau gweithiwr cymdeithasol rheng flaen: rydych yn gweithio ar achosion cymhleth, yn delio â cham-drin posibl, yn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar fywydau ac yn jyglo blaenoriaethau lluosog yn gyson. Sut fyddech chi'n gwneud penderfyniadau pe byddech yn eu lle nhw?

Creodd Liza Turton, Gweithiwr Cymdeithasol Ymgynghorol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, ynghyd â'i chydweithiwr Rachel Scourfield, fframwaith Map Dadansoddol – model sydd wedi'i gynllunio i wneud ymchwil yn offeryn bob dydd i ymarferwyr gofal cymdeithasol i'w helpu yn y broses o wneud penderfyniadau.

Mae'r model yn cynnig hyfforddiant i ymarferwyr, i gymryd rhan mewn sesiynau mapio achos a phecyn cymorth i'w ddefnyddio bob dydd.  Roedd y sesiynau mapio achos yn arbennig o drawsnewidiol ar gyfer ymarfer.  Yn y sesiynau hyn, byddai ymarferwyr yn gweithio gyda'i gilydd i "fapio" achos, nodi beth oedd yn gweithio'n dda, pa bryderon sy'n parhau a sut y gallai ymchwil arwain y camau nesaf.  Roedd y broses hon yn caniatáu dull mwy strwythuredig a gwybodus o wneud penderfyniadau.  Dywedodd Liza: 

"Rhannodd ymarferwyr gofal cymdeithasol fod integreiddio ymchwil i'w harfer nid yn unig yn gwella canlyniadau i'w cleientiaid; mae'n rhoi hwb i'w hyder wrth wneud penderfyniadau." 

Derbyniodd Liza Wobr Arweinydd Ymchwil Seiliedig ar Ymarfer y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd am hyrwyddo diwylliant ymchwil mewn gofal cymdeithasol oedolion ar gyfer creu'r fframwaith.  Dywedodd hi:

Trwy ymgorffori ymchwil i arfer bob dydd, gallwn greu arferion gofal cymdeithasol mwy effeithiol a hyderus sydd o fudd i'r cleient a'r ymarferydd."

Darganfyddwch beth sydd gan ymarferwyr gofal cymdeithasol i'w ddweud am y fframwaith a sut y lluniodd Liza y syniad trwy ei gwylio yn cyflwyno trafodaeth dull TED yn ein cynhadledd yn 2024.