Amlinelliad o ffigur dynol gydag amrywiaeth o eiconau iechyd a thechnoleg

Allech chi fod yn asesydd i Innovate UK?

Mae Innovate UK yn bwriadu ehangu eu cronfa o aseswyr i adolygu ceisiadau ym maes Gwyddorau Iechyd a Bywyd.

Hoffem gael aseswyr o amrywiaeth o gefndiroedd gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Niwrowyddoniaeth (niwroddirywiad, niwrodechnoleg)
  • Clefydau heintus (gan gynnwys AMR a brechlynnau)
  • Arloesedd iechyd benywaidd
  • Oncoleg
  • Iechyd meddwl

Os ydych chi wedi bod â swyddi uwch yn y meysydd hyn ac yn gallu dangos hanes o lwyddiant wrth ddatblygu, comisiynu neu weithredu arloesi gwyddor iechyd a bywyd, ymunwch nawr a byddwch yn rhan o gymuned fywiog o arbenigwyr sy'n ymroddedig i ysgogi arloesedd.

Mae mwy o fanylion ar eu gwefan - mynegwch eich diddordeb nawr.