Gwraig hŷn yn yfed dŵr

A allwch chi helpu gydag ymchwil i heintiau’r llwybr wrinol ymhlith preswylwyr cartrefi gofal?

Mae Astudiaeth VENUS yn ymwneud â datblygu dull newydd o reoli preswylwyr cartrefi gofal sydd â haint posibl yn y llwybr wrinol. Mae’r cymrawd ymchwil Louis Worswick yn dymuno cyfweld â staff nyrsio a staff gofal sy’n gweithio mewn cartrefi gofal, i archwilio eu barn nhw ar sut i reoli cleifion â symptomau amwys yr heintiau hyn yn ddiogel heb ddefnyddio gwrthfiotigau ar y dechrau.

Os ydych chi’n credu y gallai fod gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn cyfweliad (sy’n para 30-60 munud) neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth i’w hanfon at eich rhwydweithiau, cysylltwch â ni.

I ddiolch i chi am gymryd rhan mewn cyfweliad byddwch chi’n cael cynnig taleb rhodd Love2Shop gwerth £20.

Mae rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth VENUS ar wefan yr astudiaeth, neu os hoffech chi gymryd rhan mewn cyfweliad, anfonwch neges destun, ffoniwch neu anfonwch e-bost Louise Worswick, Cymrawd Ymchwil