
Astudiaethau dichonoldeb
Manylion y cwrs
Nod y cwrs undydd hwn yw rhoi cyflwyniad i gyfranogwyr i astudiaethau dichonoldeb o ymyriadau iechyd cyhoeddus cymhleth. Mae astudiaethau o’r fath yn cynhyrchu’r dystiolaeth sydd ei hangen i benderfynu sut i fynd ati i gynnal astudiaeth werthuso ar raddfa lawn.
Bydd cyfranogwyr yn dysgu am wahanol nodau astudiaethau dichonoldeb, eu dulliau cysylltiedig, sut y gall canfyddiadau astudiaeth lywio penderfyniadau tuag at werthusiad ar raddfa lawn a sut i adrodd ar ganfyddiadau dichonoldeb. Bydd cyfleoedd ar gyfer rhwydweithio a gwaith grŵp cymhwysol yn cael eu darparu yn ystod y dydd. Mae’r tîm addysgu yn cynnwys awduron nifer o weithiau empirig a methodolegol sy’n ymwneud ag astudiaethau dichonoldeb gan gynnwys Dr Kelly Morgan, Dr Britt Hallingberg a’r Athro Graham Moore.
Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?
- Rhesymau dros gynnal astudiaethau dichonoldeb
- Dadleuon, cysyniadau ac egwyddorion allweddol mewn perthynas â therminoleg a dulliau astudio dichonoldeb
- Y dulliau ymchwil (meintiol ac ansoddol) a ddefnyddir i fynd i’r afael ag ansicrwydd sy’n ymwneud ag ymyrraeth a chynllun gwerthuso astudiaeth dichonoldeb yn y dyfodol
- Sut y gellir defnyddio canfyddiadau astudiaethau dichonoldeb i lywio penderfyniadau ynglŷn â symud at astudiaeth werthuso yn y dyfodol
- Sut i adrodd am astudiaethau dichonoldeb
- Teipolegau ac enghreifftiau o astudiaethau dichonoldeb o ymyriadau cymhleth i iechyd y cyhoedd
I bwy mae’r cwrs hwn?
Ymchwilwyr, myfyrwyr PhD, ymarferwyr a llunwyr polisi sydd â diddordeb mewn datblygu a gwerthuso ymyriadau cymhleth, yn benodol ar gyfer iechyd y cyhoedd. Ni ragdybir y bydd gennych unrhyw wybodaeth flaenorol.
Mae'r cwrs hwn wedi'i redeg gan DECIPHer, os gwelwch yn dda cysylltwch â hwy'n uniongyrchol ar gyfer unrhyw ymholiadau.