Audience applauding

The Carers Wales Conference: Finding Solutions

Mae dod o hyd i atebion i'r gefnogaeth orau i ofalwyr di-dâl yn hanfodol ar gyfer iechyd, gofal cymdeithasol a chymdeithas yn gyffredinol gan ein bod yn dibynnu ar y gwaith di-ddiwedd i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.

Mae Gofalwyr Cymru yn dod ag arbenigwyr o ddisgyblaethau lluosog ynghyd, gan gynnwys gofalwyr di-dâl eu hunain, i drafod beth yw’r arfer gorau i gefnogi gofalwyr, sut y gallwn ddysgu oddi wrth ein gilydd a sut mae gofal di-dâl yn effeithio ar bob llwybr o fywyd proffesiynol.

Rydym wrth ein bodd i gael cwmni Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, ynghyd â nifer o arbenigwyr proffil uchel gan gynnwys Helena Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Helen Wyley, Cyfarwyddwr Coleg Brenhinol y Nyrsys Cymru, Alyson Thomas Prif Weithredwr Llais Cymru a Helen Walker, ac Prif Weithredwr Carers UK .

Byddwn hefyd yn lansio ystadegau newydd ynghylch iechyd ac iechyd meddwl gofalwyr di-dâl fel rhan o'n cyfres o ddatganiadau Cyflwr Gofalu yng Nghymru sy'n cael eu cynnal yn ystod yr hydref.

Bydd yma hefyd nifer o weithdai gan gynnwys ffocws ar ofal cymdeithasol, gofal iechyd, y Ddeddf Absenoldeb Gofalwyr newydd a ddaw i rym ym mis Ebrill 2024 ac edrych ar sut y gall technoleg ac arloesedd gefnogi gofalwyr di-dâl.

Mae’n bleser gennym gynnig y gynhadledd hon mewn fformat hybrid gan wahodd y rhai sy’n gallu mynychu i ymuno â ni yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd yng Nghaerdydd tra hefyd yn cynnig profiad ar-lein cwbl integredig. Dewiswch y tocyn priodol wrth archebu.

Bydd hon yn gynhadledd ddi-bapur.

Sylwch fod y ffurflen archebu yn Saesneg yn unig oherwydd cyfyngiad o fewn y meddalwedd

Agenda

9.30am: Cofrestru yn agor

10.00yb: Croeso

10.05am: Agor y Gynhadledd: Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan

10.10am: Cyflwr Gofalu yng Nghymru: Claire Morgan, Cyfarwyddwr Gofalwyr Cymru

10.25am: Jayne Newman, Gofalwr Di-dâl ac aelod o'r Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Ofalwyr

10.35am: Prif araith: Helena Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn

10.50am: Trafodaeth Panel Arbenigol:

  • Helen Whyley, Cyfarwyddwr Cymru, Coleg Brenhinol y Nyrsys
  • Helen Walker, Prif Swyddog Gweithredol, Carers UK
  •  Alyson Thomas, Llais Cymru
  •  Nick Davies, gofalwr di-dâl

12pm: Cinio, rhwydweithio ac arddangoswyr

1pm: Galwadau i weithredu: Claire Morgan, Cyfarwyddwr Gofalwyr Cymru

1.30pm: Gweithdai

Gweithdy 1: Gwella canlyniadau ymarferol ar gyfer gofalwyr di-dâl mewn Gofal Cymdeithasol

  • Jake Smith, Swyddog Polisi Gofalwyr Cymru
  • Cerian Twinberrow, Swyddog Datblygu a Chysylltu, Gofal Cymdeithasol Cymru

Gweithdy 2: Deddf Absenoldeb Gofalwyr a goblygiadau i gyflogwyr a gofalwyr

  • Emily Holzhausen, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus, Carers UK
  • Jane Healey, Rheolwr Cyflogwyr i Ofalwyr, Gofalwyr Cymru

Gweithdy 3: Sut y gellir cefnogi gofalwyr i ofalu am eu hiechyd eu hunain a’r rhai y maent yn gofalu amdanynt -

  • Cymdeithas Brydeinig Dietegwyr y DU
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru

Gweithdy 4: Defnyddio deallusrwydd artiffisial a thechnoleg i gefnogi Gofalu

  • Technoleg Iechyd Cymru

2.30pm Ailadrodd y gweithdai uchod

3.30pm Daw'r gynhadledd i ben gydag ymrwymiadau cynrychiolwyr

Mae'r gynhadledd hon yn cael ei chynnal gan Carers Wales os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â thîm y digwyddiad.

-

All Nations Centre and Online