
Coch Dros Ymchwil 2024
Ar ddiwrnod #CochDrosYmchwil rydyn ni eisiau achub ar y cyfle i arddangos eich cyflawniadau chi a rhannu'r hyn y mae ymchwil yn ei olygu i'r bobl sy'n cefnogi ac yn cyflawni ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.
Nodwch y dyddiad Dydd Gwener 20 Medi, gwisgwch rywbeth coch a pharatowch i ddathlu
-
Mae Coch Dros Ymchwil yn ymwneud â'r bobl sy'n cymryd rhan, yn cefnogi ac yn cyflawni ymchwil. Dyma eich cyfle i rannu eich straeon, yn unigolion, yn dimau, yn ddarparwyr gwasanaethau a byrddau iechyd.
I gymryd rhan, cysylltwch â ni
Rydym wedi derbyn delweddau anhygoel hyd yn hyn ac ni allwn aros i ddangos i chi beth rydym wedi'i wneud gyda nhw!