people studying

Cwrs byr: Arloesedd Methodolegol ym maes Gwyddoniaeth Ymyrraeth Iechyd Cyhoeddus: Gwerthuso’r broses

Manylion y cwrs

Nod y cwrs undydd hwn, dan arweiniad y Cymrawd Ymchwil Dr Rachel Brown, yw cynnig gwybodaeth dda am theori ac ymarfer gwerthuso ymyriadau cymhleth drwy broses.

Mae’r tîm addysgu yn cynnwys awduron o sawl darn empirig a methodolegol o waith sy’n gysylltiedig â gwerthuso prosesau, gan gynnwys Dr Rhiannon Evans a Dr Jeremy Segrott.

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?

  • Rôl gwerthuso prosesau wrth ddeall ymyriadau cymhleth
  • Pwysigrwydd damcaniaeth ymyrryd a modelau rhesymeg
  • Cywirdeb a gweithredu ymyriadau cymhleth
  • Materion ynghylch adnoddau a pherthnasoedd
  • Pennu cwestiynau a chyfuno dulliau

I bwy mae’r cwrs hwn?

Ymchwilwyr, myfyrwyr PhD, ymarferwyr a llunwyr polisi sydd â diddordeb mewn datblygu a gwerthuso ymyriadau cymhleth, yn benodol ar gyfer iechyd y cyhoedd. Ni ragdybir y bydd gennych unrhyw wybodaeth flaenorol.

Mae'r cwrs hwn wedi'i redeg gan DECIPHer, os gwelwch yn dda cysylltwch â hwy'n uniongyrchol ar gyfer unrhyw ymholiadau.

-

SBARC / SPARK, Cardiff University, CF24 4HQ

I ddod o hyd i sut i archebu ar y cwrs hwn cysylltwch â:

Lucy neu Zoe 

Cost y cwrs: £250