DEEP Sesiwn dysgu: Gwneud penderfyniadau ar y cyd
Mae DEEP yn ddull cydgynhyrchu o gasglu, archwilio, a defnyddio mathau amrywiol o dystiolaeth mewn dysgu a datblygu gan ddefnyddio dulliau stori a deialog.
Her cydgynhyrchu
Er bod cydgynhyrchu’n cael ei hyrwyddo’n eang, gall ei wneud yn realiti fod yn heriol. Rydyn ni i gyd yn gweld y byd yn wahanol a gall dod â phobl â bwriadau da at ei gilydd i siarad yn y pen draw adael pawb yn rhwystredig os nad yw'r sgyrsiau'n mynd yn dda.
Mae gwneud penderfyniadau consensws yn ddull o wneud penderfyniad ar y cyd.
Mae gwneud penderfyniadau consensws yn ceisio dod o hyd i gamau gweithredu a/neu atebion y mae pawb yn eu cefnogi neu o leiaf yn gallu byw gyda nhw. Gall hwn fod yn ddull delfrydol ar gyfer penderfynu ar y cyd sut y bydd tystiolaeth yn cael ei defnyddio yn ymarferol neu a ddylid cyflwyno arloesedd. Gall manteision y dull hwn gynnwys meithrin perthnasoedd, cefnogi deialog barchus, a dod i benderfyniadau gwell.
Y sesiwn
Bydd y sesiwn hon yn archwilio lle mae gwneud penderfyniadau consensws yn ffitio yn y prosesau ehangach o ymchwil, datblygu ymarfer ac arloesi. Bydd yn ymdrin â beth yw penderfyniadau consensws a sut i wneud hynny. Byddwn yn ceisio cynnig ymdeimlad o sut beth yw bod yn rhan o'r broses. Mae'r sesiwn hefyd yn gyfle i archwilio atebion ar gyfer heriau cyffredin wrth geisio penderfyniadau ar y cyd.
Mae'r gynhadledd hon yn cael ei chynnal gan Gofal Cymdeithasol Cymru os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â thîm y digwyddiad.
Am Ddim