Fforwm Ymgysylltu a Chynnwys y Cyhoedd
Mae'r Fforwm yn rhwydwaith ar gyfer ymchwilwyr, y cyhoedd a phobl sy'n gweithio ym maes ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru i drafod materion a sbarduno gwelliant o ran ymgysylltu a chynnwys y cyhoedd.
Bydd y cyfarfod nesaf yn cynnig cyfle i ddysgu sut i gynllunio’ch gweithgareddau cynnwys y cyhoedd i sicrhau cymaint o ymgysylltu â phosibl gan ddefnyddio’r dull a’r offerynnau gorau. Bydd yn canolbwyntio ar weithio hybrid a sut i’w wneud yn dda.
Byddwch chi’n cyfarfod â’n siaradwr gwadd a’n hwylusydd Dr Orla Cronin, seicolegydd ymchwil, hwylusydd, hyfforddwr ac ymgynghorydd i gyrff anllywodraethol a sefydliadau cymdeithas sifil eraill. Gyda mwy nag ugain mlynedd o hwyluso, mae wedi datblygu pecyn cymorth eang o ddulliau hwyluso byw, rhithwir a hybrid. Mae wedi ymrwymo’n ddwfn i ddulliau cyfranogol e.e. Technoleg Cyfranogi, Caffi’r Byd, Ystwyth, Ffocws ar Ateb, Man Agored ac Ymchwiliad Gwerthfawrogol.
Rhaglen
Croeso gan gadeirydd y sesiwn
Alex Newberry; Pennaeth Is-adran Cynnwys y Cyhoedd, Ymchwil a Datblygu, Llywodraeth Cymru
Digwyddiadau hybrid a sut i’w gwneud yn dda ar gyfer cynnwys y cyhoedd
Hwylusydd, Dr Orla Cronin,
Seicolegydd, Hwylusydd, Hyfforddwr ac Ymgynghorydd Ymchwil
Beth ydy digwyddiad hybrid?
Sesiwn ryngweithiol sy’n cynnwys astudiaethau achos o’r gymuned cynnwys ac ymchwil
- Amy Nicholass – Ymchwilydd, Prifysgol Aberystwyth
- Roger Seddon – Cyfrannwr cyhoeddus
- Bridie Evans – Ymchwilydd, Prifysgol Abertawe
Beth ydyn ni’n ceisio’i gyflawni mewn digwyddiad hybrid?
Offerynnau a dulliau sy’n addas ar gyfer digwyddiadau hybrid
Egwyl
Mewnwelediadau a heriau – sesiwn ryngweithiol
Sylwadau terfynol a chau
Alex Newberry; Pennaeth Is-adran Cynnwys y Cyhoedd, Ymchwil a Datblygu, Llywodraeth Cymru
Rhydd am dim