Fforwm Ymgysylltu a Chynnwys y Cyhoedd
Bydd Fforwm mis Gorffennaf yn canolbwyntio ar effaith aelodau'r cyhoedd ar ddatblygu astudiaethau ymchwil a'r gwerth y maent yn ei ddarparu i ymchwilwyr. Byddwch hefyd yn clywed am y canllawiau talu newydd sy'n barod i'w rhoi ar waith.
Roedd y Fforwm cyntaf yn cynnwys amrywiaeth o siaradwyr a ystyriodd sut y gall y cyhoedd fod yn rhan o flaenoriaethu ymchwil yng Nghymru a pha gamau y gellid eu cymryd i wneud ymchwil yn fwy cynhwysol.
Rhaglen
09:55 – Agor y sgwrsio
10:00 - 10:05 – Croeso gan gadeirydd y sesiwn
Alex Newberry; Pennaeth Is-adran Cynnwys y Cyhoedd, Ymchwil a Datblygu, Llywodraeth Cymru
10:05 - 11:05 – Sesiwn 1: Safbwynt ymchwilwyr ar yr effaith y mae cynnwys y cyhoedd wedi’i chael ar eu gwaith
Cadeirydd y sesiwn: Richenda Leonard, Gweinyddwr Cyfathrebu, Cynnwys ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd ar gyfer DEEP; Myfyrwraig PhD
- Alisha Newman, Arweinydd Academaidd Cynnwys y Cyhoedd ar gyfer Canolfan Ymchwil Canser Cymru
- Abigail MacArthur, Cydlynydd Ymchwil, Biofanc Canser Cymru
- Michaela James, Ymchwilydd Iechyd a Gweithgarwch Corfforol Plant, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Llesiant y Boblogaeth
- Praveena Pemmasani, Cydymchwilydd, Grŵp Cynghori Pobl Ifanc, Rhwydwaith Ymchwil Drawsddigyblaethol ar gyfer Gwella Iechyd Meddwl Cyhoeddus Ieuenctid (TRIUMPH);
- Asha Mohammed, Cydymchwilydd, Grŵp Cynghori Pobl Ifanc, Rhwydwaith TRIUMPH.
11:05 - 11:15 – Egwyl
11:15 - 12:10 – Sesiwn 2: Prosiect talu am gynnwys y cyhoedd – Cael effaith yng Nghymru
Cadeirydd y sesiwn: Bob McAlister, Cydgadeirydd Is-Grŵp UK5Nations “Talu am gynnwys y cyhoedd”
- Datblygu’r canllawiau – Alex Newberry a Bob McAlister
- Ydy cynnwys y cyhoedd yn werth chweil o ystyried biwrocratiaeth? - Hameed Khan, Cyfranogwr cyhoeddus
- Sesiwn gweithdy – Hybu’r canllawiau a’u rhoi ar waith - Alex Newberry a Peter Gee, Uwch Reolwr Cynnwys y Cyhoedd, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
12:10 - 12:25 – Sesiwn 3: Y diweddaraf gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru am gynnwys y cyhoedd
Alex Newberry; Pennaeth Is-adran Cynnwys y Cyhoedd, Ymchwil a Datblygu, Llywodraeth Cymru
Peter Gee, Uwch Reolwr Cynnwys y Cyhoedd, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
12:25 - 12:30 – Crynodeb a chau
Alex Newberry; Pennaeth Is-adran Cynnwys y Cyhoedd, Ymchwil a Datblygu, Llywodraeth Cymru
Rhydd am ddim