
‘Food Glorious Food‘: Ymchwilio i fanteision a heriau cynnig bwyd mewn grwpiau cymorth cymunedol i bobl sy’n byw gyda dementia.
Mae’r weminar hon yn cyflwyno’r prosiect Food Glorious Food a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil ar Iechyd (NIHR), gan gynnig gwybodaeth gynnar o’i werthusiad realaidd. Mae pobl sy’n byw gyda dementia yn wynebu mwy o risg o ddiffyg maeth a dadhydradu. Fodd bynnag, mae mwy o arwyddocâd i fwyd na maeth yn unig – gall ddylanwadu ar les seicogymdeithasol, meithrin ymdeimlad o ddinasyddiaeth a chefnogi hunaniaeth bersonol a diwylliannol. Mae profiadau cadarnhaol yn y meysydd hyn yn hollbwysig i fyw’n dda gyda dementia.
Mae’r prosiect Food Glorious Food yn ymchwilio i’r ffordd mae arferion bwyd cymorth grwpiau cymunedol yn effeithio ar bobl o gefndiroedd ac amgylchiadau amrywiol. Dyma gydweithrediad rhwng y Gymdeithas Astudiaethau Dementia (Prifysgol Caerwrangon), Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Rhydychen, a Phrifysgol Wolverhampton. Mae’r prosiect yn defnyddio dulliau ansoddol hyblyg i greu data o grwpiau cymorth cymunedol sy’n ethnig amrywiol. Y nod yw dod o hyd i’r hyn sy’n gweithio, i bwy ac o dan ba amgylchiadau.
Mae'r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal gan ExChange Wales - cysylltwch â nhw'n uniongyrchol gydag unrhyw ymholiadau.
Cost am ddim