Group discussion at a table

Gweithdy Adolygiad Cwmpasu Joanna Briggs Institute (JBI)

Mae'r gweithdy undydd hwn yn galluogi’r rhai sy’n cymryd rhan i archwilio'r damcaniaethau a'r cysyniadau sy'n ymwneud ag adolygiadau cwmpasu a mathau eraill o synthesis tystiolaeth. Bydd yn rhoi'r wybodaeth a'r adnoddau sydd eu hangen ar y rhai sy’n cymryd rhan i gynllunio, cynnal ac adrodd adolygiad cwmpasu yn llwyddiannus, drwy ddilyn dull JBI.

Ar ddiwedd y rhaglen hyfforddi hon bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn gallu:

  • Llunio cwestiwn cwmpasu atebol
  • Datblygu meini prawf cynhwysiant ac allgáu i adnabod llenyddiaeth i ateb y cwestiwn
  • Llunio chwiliadau cymhleth ar gyfer llenyddiaeth sy'n briodol i'r cwestiwn cwmpasu
  • Echdynnu data perthnasol o'r llenyddiaeth
  • Cyfuno data ymchwil a dynnwyd i ffurfio casgliadau ac ateb y cwestiwn adolygu
  • Llunio protocol ac adroddiad adolygu y gellir ei gyhoeddi.

Mae'r gynhadledd hon yn cael ei chynnal gan Brifysgol Caerdydd os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â thîm y digwyddiad.

-

Online