Gweminar ar Gyhoeddi i ECRs
Prif Gynghorion gan Olygyddion a’u profiad o gael eu cyhoeddi
Am beth mae cyhoeddwyr yn chwilio? Mae’r sesiwn yn cael ei hanelu at ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn dysgu cynghorion defnyddiol gan olygyddion arbenigol ar sut i gyhoeddi mewn cyfnodolion academaidd, tŷ cyhoeddi neu gyfryngau cymdeithasol i gynulleidfaoedd ehangach, fel The Conversation. Bydd pynciau a drafodir yn cynnwys prosesau a heriau wrth gomisiynu a chyhoeddi llyfr academaidd, cyfleoedd i gyhoeddi gyda Gwasg Prifysgol Cymru ac ymchwil mynediad agored gan gynnwys mewnwelediadau trin disgyblaethau STEM yn ogystal â’r Dyniaethau, Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol.
Siaradwyr gwadd:
Athro Tom Crick MBE FLSW FAcSS, Ddirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Abertawe
Mae Tom Crick MBE FLSW FAcSS yn Athro Addysg Ddigidol a Pholisi ac yn Ddirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei ddiddordebau academaidd ym maes ymchwil/polisi/ymarfer gyda phwyslais ar ddulliau ac effeithiau sy’n canolbwyntio ar ddinasyddion, ac mae wedi arwain y prif gwricwlwm a diwygiadau cymwysterau gwydoniaeth a thechnoleg dros y 10+ mlynedd diwethaf. Yn ddiweddar mae Tom wedi cael ei benodi fel Prif Gynghorydd Gwyddonol yn yr Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.
Cafodd ddyfarniad MBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2017 am “wasanaethau i gyfrifiadureg a hyrwyddo addysg cyfrifiadureg” a chafodd ddyfarniad Gwobr Ymgysylltiad Cyhoeddus ac Effaith BERA 2020 am ei waith diwygio’r cwricwlwm yng Nghymru.
Ef yw Prif Olygydd The Computer Journal (2021-presennol), un o’r cyfnodolion mwy sefydledig (ers 1958), yn gwasanaethu holl adrannau’r gymuned academaidd cyfrifiadureg, a gyhoeddwyd gan Oxford University Press. Mae Tom hefyd yn Olygydd Cylchgrawn Addysg Cymru/Wales Journal of Education (2020-presennol), cyfnodolyn platinwm dwyieithog a gyhoeddwyd agored i bawb gan Wasg Prifysgol Cymru.
Siriol Griffiths, Golygydd Cymru ar gyfer The Conversation
Mae Siriol wedi bod yn newyddiadurwr ers 25 mlynedd. Dechreuodd ei gyrfa yn adran Newyddion a Materion Cyfoes y BBC, gan weithio fel gohebydd ar y teledu ac ar y radio. Yna, symudodd i BBC Chwaraeon Cymru, gan weithio fel gohebydd chwaraeon, cynhyrchydd a chyfarwyddwr DV. Ar ôl gadael y BBC, treuliodd 15 mlynedd yn gweithio ar ei liwt ei hun i amrywiaeth o gwmnïau ledled y byd. Cyn dechrau yn ei swydd fel cyfarwyddwyr The Conversation yng Nghymru, bu’n olygydd The National Wales.
Dr Llion Wigley, Uwch-olygydd Comisiynu yng Ngwasg Prifysgol Cymru
Mae Dr Llion Wigley yn Uwch-olygydd Comisiynu yng Ngwasg Prifysgol Cymru ac mae’n gyfrifol am gomisiynu teitlau mewn amryfal feysydd yn ymwneud ag Astudiaethau Cymru a’r Gymraeg. Hefyd, mae’n hanesydd ac yn awdur sydd wedi cyhoeddi dau lyfr a nifer o erthyglau mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid, megis Welsh History Review a Llafur.
Bydd y weminar yn cael ei chadeirio gan Dr Sara Elin Roberts (DPhil Oxon, FLSW).
Mae Sara Elin Roberts (DPhil Oxon) yn hanesydd sy'n arbenigo yn y gyfraith, llenyddiaeth a diwylliant Cymru a'r Mers o'r ddeuddegfed i'r bymthegfed ganrif. Mae ganddi ddiddordeb arbennig yn llyfrau cyfraith Cymru’r Oesoedd Canol, ac mae hi’n arbenigwr cydnabyddedig ar y diwylliant llawysgrifol a oedd y tu ôl i’r twf hynod mewn testunau cyfreithiol Cymru’r Oesoedd Canol rhwng y drydedd ganrif ar ddeg a'r bymthegfed ganrif. Yn ogystal â'i gwaith ar gyfreithiau Cymru, mae hi hefyd wedi astudio gwaith Dafydd ap Gwilym, y mwyaf enwog a gwreiddiol o feirdd Cymru’r Oesoedd Canol. Yn ogystal â chyfrannu at y rhifyn newydd a gyhoeddwyd yn 2010, mae hi hefyd wedi cyhoeddi astudiaethau unigol o agweddau ar ei waith. Ei monograff diweddaraf yw The Growth of Law in Medieval Wales c.1100-c.1500 (Boydell, 2022).
Cynhelir y gweithdy hwn yn uniaith Saesneg
Mae'r weminar hon yn cael ei rhedeg gan Rwydwaith ECR (LSW) os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r tîm.
Rhydd