Gweminar Cyfadran: Cynllunio ac olrhain effaith cynnwys cleifion a'r cyhoedd (PPI) gydag Alisha Newman
Mabwysiadu'r dull PIRIT mewn tirwedd PPI sy'n newid.
Bydd Alisha yn myfyrio ar y dirwedd cynnwys cleifion a'r cyhoedd sy'n newid yn gyflym ac yn esbonio sut y gall Pecyn Cymorth Effaith Ymchwil (PIRIT) eich helpu i osgoi rhai peryglon cynllunio PPI cyffredin i sicrhau cyfranogiad ystyrlon gan y cyhoedd ac olrhain ei effaith.
Mae Alisha Newman yn defnyddio 20 mlynedd o brofiad o gefnogi cynnwys y cyhoedd mewn addysg, gwasanaethau iechyd a gofal, ac ymchwil. Mae ei rolau presennol yn cynnwys bod yn uwch gydymaith ymchwil ar gyfer cynnwys ac ymgysylltu â chleifion a'r cyhoedd ym Mhrifysgol Bryste, ac arweinydd gweithredu a lledaenu PIRIT ym Mhrifysgol Caerdydd.
Cyflwynwch eich cwestiwn i Alisha ei ateb yn ystod y weminar.