Dr Deborah Morgan

Gweminar Cyfadran - Deall unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol gyda Dr Deborah Morgan

Rydym mewn argyfwng o ddatgysylltiad sy’n achosi unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol, ac mae traean o'r boblogaeth fyd-eang yn unig.

Yn y DU, mae nifer yr achosion o unigrwydd cronig wedi cynyddu 500,000 ers blwyddyn gyntaf y pandemig.

Maent yn faterion sy'n peri pryder cynyddol i lunwyr polisi, oherwydd yr effaith negyddol ar iechyd, llesiant, a chynhyrchiant gwledydd. Eto’i gyd, maent yn gysyniadau sy’n cael eu camgymryd am ei gilydd yn aml. Felly, beth yw unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol? Sut maen nhw'n wahanol? A pham mae'n bwysig nad ydyn nhw'n cael eu cymysgu?

 Bydd y weminar hon yn archwilio:

  • Y gwahaniaeth rhwng unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol, a pham mae'r gwahaniaeth hwn yn bwysig ar gyfer ymchwil.
  • Sut mae unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yn cael eu mesur.
  • Pwy sydd mewn perygl, o unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol?
  • Y rhwystrau i ymchwilio i unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol.
  • Pam mae unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yn fwy na materion unigol yn unig.

Dr Deborah Morgan

Mae Deborah yn uwch swyddog ymchwil yn y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia ac yn Rheolwr Ymchwil ENRICH Cymru. Mae ymchwil Deborah yn canolbwyntio ar unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol. Mae ganddi ddiddordeb mewn unigrwydd trwy gydol cwrs bywyd, trawsnewidiadau, atal ac ymyrraeth unigrwydd.

Yn ogystal â'i gwaith ar unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol, mae gan Deborah ddiddordeb mewn anghydraddoldebau cymdeithasol ac iechyd, heneiddio gydag anabledd a salwch cronig, ac allgau cymdeithasol a digidol

Mae Deborah yn aelod o bwyllgorau mewnol ac allanol amrywiol, gan gynnwys Bwrdd Strategaeth Unigrwydd ac Ynysigrwydd Llywodraeth Cymru a'r Grŵp Trawsbleidiol Undod Rhwng Cenedlaethau. Mae Deborah yn aelod o bwyllgor gweithredol Cymdeithas Gerontoleg Prydain.

Cyflwynwch eich cwestiwn i Deborah ei ateb yn ystod y weminar.

 

-

Ar-lein