Prof Ceri Battle

Gweminar cyfadran - Gwneud ymchwil mewn lleoliadau brys gyda'r Athro Ceri Battle

Bydd yr Athro Ceri Battle yn rhoi trosolwg o'r heriau allweddol sy'n gysylltiedig â chynnal ymchwil mewn lleoliad gofal brys ac acíwt. Bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn cael ei chyflwyno o safbwynt defnyddiwr gwasanaeth, nyrs ymchwil, Gweithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (AHP) a Phrif Ymchwilydd.

Yr Athro Ceri Battle

Mae Ceri yn Ffisiotherapydd Ymgynghorol yn Ysbyty Treforys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac yn Athro Anrhydeddus mewn Trawma a Gofal Brys yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Mae hi'n Arweinydd Arbenigedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer Ymchwil Trawma a Gofal Brys yng Nghymru. Ei phrif ddiddordeb ymchwil yw rheoli trawma di-fin i wal y frest.

Cyflwynwch eich cwestiwn i Ceri ei ateb yn ystod y weminar.

-

Ar-lein