Gweminar Cyfadran - Pam mae angen ystadegydd arnaf a beth fydd ei angen gennyf i? gyda Dr Zoe Hoare
Mae ystadegwyr yn rhan hanfodol o lawer o dimau ymchwil ac yn darparu set o sgiliau a fydd yn gwella eich ymchwil. Nid yn unig y bydd ystadegydd yn eich helpu i ddylunio a chasglu'r data cywir i ateb eich cwestiwn ymchwil, bydd yn gallu ei ddadansoddi'n effeithlon gan sicrhau bod y dulliau mwyaf priodol a chadarn yn cael eu defnyddio. I ddyfynnu R A Fisher: "Mae ymgynghori ag ystadegydd ar ôl gorffen arbrawf yn aml fel gofyn iddo gynnal archwiliad post mortem. Efallai y gall ddweud beth oedd achos marwolaeth yr arbrawf". Nid dim ond gwneud y fathemateg ar y diwedd y bydd ystadegydd, bydd yn gwella eich dyluniad. Ni fyddech o reidrwydd yn gofyn i drydanwr newid bwlb golau ond byddech am i arbenigwr ail-wifro'ch tŷ – mae ystadegwyr yn gweithio yr un ffordd. Gallant ddarparu'r arbenigedd i nodi sut y dylech 'ail-wifro' eich ymchwil.
Dr Zoe Hoare
Ar hyn o bryd, Zoë Hoare yw Cyfarwyddwr a Phrif Ystadegydd Sefydliad Gogledd Cymru ar gyfer Hapdreialon Iechyd (a Gofal Cymdeithasol) (NWORTH) - uned dreialon clinigol achrededig UKCRC ym Mhrifysgol Bangor. Ar hyn o bryd mae gan NWORTH bortffolio o astudiaethau gweithredol sydd â chyfanswm gwerth grant o tua £28 miliwn gyda rhwydwaith o gydweithredwyr o bob rhan o'r DU.
Mae Zoë wedi cyfrannu at bortffolio eang o astudiaethau ymchwil clinigol gan ganolbwyntio'n benodol ar werthusiad ymarferol ymyriadau cymhleth mewn amrywiaeth o feysydd iechyd. Mae treialon iechyd meddwl a dementia o ddiddordeb arbennig. Mae gan Zoe ddiddordeb methodolegol mewn ystyried canlyniadau cyfansawdd yng nghyd-destun ymyriadau cymhleth, effaith meini prawf stop/mynd ar ddatblygu treialon a delweddu canlyniadau gwerthusiad i gynorthwyo dehongli.
Mae Zoë yn aelod o fwrdd golygyddol y British Dental Journal a'r cyfnodolyn Aging and Mental Health, yn ogystal â bod yn Uwch Olygydd ar gyfer y cyfnodolyn Pilot and feasibility studies. Mae hi hefyd yn gweithredu fel aelod o'r panel cyllido ar gyfer cynlluniau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae hi'n adolygu'n rheolaidd ar gyfer nifer o gyfnodolion a phaneli ariannu amrywiol NIHR ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Cyflwynwch eich cwestiwn i Zoe ei ateb yn ystod y weminar.