People working on laptops with graphs on screen

Gweminar - Pwysigrwydd arferion rheoli data da mewn treialon clinigol

Ar gyfer pwy mae hwn?

Croeso i bawb. Byddai o ddiddordeb arbennig i ddarpar ymchwilwyr a fyddai’n gweithio â ni i lunio cais am grant yn ystod y 12 mis nesaf, unrhyw un sy’n newydd i faes ymchwil neu sydd eisiau gwybod sut mae’r Ganolfan Ymchwil Treialon (CTR) yn gweithio.

Cyflwynir gan:

Nigel Kirby – Pennaeth Rheoli Data

Debbie Harris – Uwch-Reolwr Data yr Isadran Haint, Llid ac Imiwnedd

Ceri Frayne – Uwch-Reolwr Data yr Is-adran Ganser

Helen Stanton – Uwch-Reolwr Data Is-adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Poblogaethau

Mia Sydenham – Uwch-Reolwr Data Adran Iechyd yr Ymennydd a Lles Meddyliol

Crynodeb

Mae cynnal safon uchel o waith rheoli data yn hanfodol wrth gynnal unrhyw astudiaeth ymchwil. Mae cael data da yn hollbwysig er mwyn cynnal gwaith ymchwil. Mae angen i chi gynnal safon uchel o waith rheoli data er mwyn bod yn hyderus yn ansawdd eich data. Mae hyn yn cynnwys sefydlu systemau wedi’u dilysu i gasglu’r data, sicrhau bod yr holl fframweithiau cyfreithiol a moesegol wedi’u hystyried ac ystyried sut y caiff data eu casglu, eu storio, eu cadw a’u harchifo. Yn y gweminar hwn, byddwch chi’n dysgu am bwysigrwydd rheoli data ac yn cael rhai enghreifftiau o arferion da o astudiaethau cyfredol y Ganolfan

Mae'r weminar hon yn cael ei threfnu gan y Ganolfan Treialon Ymchwil,  cysylltwch â'u tîm os oes gennych unrhyw gwestiynau.

 

-

Ar-lein