Gweminar y Gyfadran – Cyhoeddi eich ymchwil gyda’r Athro Jonathan Scourfield
Yn ystod y weminar hon, bydd yr Athro Jonathan Scourfield yn sôn am y canlynol:
- Pwysigrwydd fformat cyhoeddi sy’n gweddu i’r gynulleidfa
- Blogiau, briffiadau byr, fideos ac ati ar gyfer ymarferwyr a’r cyhoedd
- Cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid
- Sut mae cyfnodolion yn gweithio? (y broses o gyflwyno ymchwil i’w chyhoeddi)
- Sut ydw i’n dewis pa gyfnodolyn?
- Awgrymiadau ar gyfer cyhoeddi
Mae Jonathan wedi bod yn academydd gwaith cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd ers 28 o flynyddoedd. Cyn hynny, bu’n gweithio fel athro ysgol, gweithiwr grŵp mewn cymuned therapiwtig a swyddog prawf. Dechreuodd ei yrfa academaidd fel ymchwilydd ansoddol ac yna symudodd yn ddiweddarach i wneud gwaith ymchwil gwerthusol, mwy meintiol ar ôl hyfforddi ym maes Epidemioleg.
Mae’n Ddirprwy Gyfarwyddwr CASCADE, y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant, sef y ganolfan ymchwil gofal cymdeithasol plant fwyaf yn y DU. Arweiniodd gais cyllido llwyddiannus y Brifysgol i sefydlu’r Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol Oedolion (CARE) hefyd. Mae’n un o Uwch-arweinwyr Ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru ac mae’n Gyd-arweinydd Arbenigol ar gyfer ymchwil gofal cymdeithasol. Mae hefyd yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig.
Cyflwynwch eich cwestiwn i Jonathan ei ateb yn ystod y weminar.