Catherine Johnston

Gweminar y Gyfadran – Newidiadau sydd ar ddod i’r rheoliadau ynghylch ymchwil sy’n cynnwys cyfranogwyr dynol gyda Catherine Johnston

Bydd y weminar hon yn canolbwyntio ar y newidiadau a ddisgwylir i reoliadau Arferion Clinigol Da a’r diweddariad i Ddatganiad Helsinki. Bydd yn edrych ar oblygiadau ac ystyriaethau ymarferol y diweddariadau hyn i staff sy’n gweithio ym maes ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.

Catherine Johnston

Cat yw’r Rheolwr Hyfforddiant Arferion Clinigol Da yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae’n rheoli’r rhaglen hyfforddiant ymchwil ledled Cymru, ac yn gweithio ar y cyd â NIHR fel rhan o’i grŵp Arweinwyr Arferion Clinigol Da. Mae’n frwdfrydig am yr effaith y gall hyfforddiant o ansawdd uchel ei chael ar y gwaith o gyflawni ymchwil ac, yn y pen draw, ar lesiant a phrofiad ein cyfranogwyr.

Yn flaenorol, bu’n gweithio yn y GIG fel Swyddog Astudiaethau Clinigol ar draws amrywiaeth eang o astudiaethau gwahanol nad ydynt yn astudiaethau CTIMP ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac ym Mhrifysgol Caerdydd fel Rheolwr Treialon mewn astudiaethau CTIMP. Cyn iddi ddechrau gweithio ym maes ymchwil, gwnaeth Cat hyfforddi i fod yn gwnselydd genetig ym Mhrifysgol Caerdydd a, chyn hynny, bu’n gweithio mewn amrywiaeth o sefydliadau trydydd sector ac ym maes datblygu rhyngwladol.

Cyflwynwch eich cwestiynau i Cat eu hateb yn ystod y weminar.

 

-