
A Just Transition or Just a Transition?
I fenthyg oddi wrth Buckminster Fuller, ni allwn ddefnyddio ein dull presennol i ddatgarboneiddio ein trafnidiaeth yn deg, mae angen i ni greu dewisiadau sy’n wahanol i'n model presennol. Ymunwch â The Transport and Health Integrated research NetworK (THINK) i helpu i lunio dull gweithredu posibl a all leihau effaith teithio ar bobl yn ogystal â'r blaned.
Nid yw’r ymdrechion i wneud teithio'n fwy teg yn llwyddo ac nid yw hyn yn argoeli'n dda i gyflawni’r Pontio Teg tuag at deithio carbon isel. Er gwaethaf degawdau o ymchwil, strategaethau ac ymgyrchu am deithio mwy cynhwysol, mae’r cynnydd wedi’i ddisgrifio fel 'araf a thameidiog' ac mewn adroddiad diweddar, Trafnidiaeth i Bawb, disgrifiwyd effaith yr anghyfiawnder hwn gan pobl anabl gan ddweud ei fod yn cael ei 'deimlo ym mhob cornel o'n bywydau'.
Ac yn awr rydyn ni’n ailgynllunio i gyflym ddatgarboneiddio’r rhwydweithiau trafnidiaeth. Os yw’r cerbydau newydd a geir heddiw, ynghyd â’r amgylcheddau teithio newydd, yn parhau i beri anabledd ac anfantais, pa bryd fydd y newid hwnnw’n dechrau troi’n newid deg? Pryd fyddwn ni’n dechrau ar y Pontio Teg hwnnw? Pryd fyddwn ni’n dechrau cymryd yr unig gyfle hwn i gynllunio ar gyfer cynhwysiant, yn ogystal â datgarboneiddio, yn gydamserol ac yn fwriadol?
Mae Andy Hyde yn dod â phobl at ei gilydd – y rhai sydd yn profi anabledd oherwydd ein rhwydweithiau trafnidiaeth a’r rhai hynny sy’n dylunio ein gwasanaethau a’u darparu. Yn y gweithdy hwn, bydd Andy yn ystyried beth allai fod yn ein hatal rhag creu gwasanaethau sy’n fwy cynhwysol gan awgrymu rhai syniadau a allai droi’r arbenigedd a’r profiad sydd eisoes gennym yn gynlluniau y gellir eu gweithredu ar unwaith. Cynlluniau i ymgorffori dylunio cynhwysol (dylunio ar gyfer pobl) yn y cynlluniau i ddatgarboneiddio sy’n dod i’r amlwg (dylunio ar gyfer y blaned).
"Yr her yw osgoi cael eich caethiwo gan y presennol - sy'n gofyn am ddod o hyd i ddull, gofod, neu bwyntiau o ddylanwad, er mwyn gallu meddwl meddyliau nad ydynt yn bodoli eto" Geoff Mulgan
Bydd Andy yn rhannu rhai syniadau ar ddull newydd sy'n defnyddio iaith newydd ar gyfer teithio ac yn ystyried ein teithiau fel system, casgliad o brofiadau y tu hwnt i drafnidiaeth. Yna byddwn yn gweithio gyda'n gilydd mewn grwpiau, gan graffu ar broses a allai helpu i sicrhau bod ymdrechion i wella cynhwysiant yn cyd-fynd â chynlluniau i ddatgarboneiddio, ac yn cyfuno â hwy. Nid yw'n honni mai dyma'r ateb, ond mae'n ddechrau.
Bydd cyfle i gyfrannu a sgwrsio trwy gydol y digwyddiad hwn. Os ydych chi’n ymwneud a threfnu teithiau, ymunwch â ni i gwrdd â chydweithwyr o’r sector trafnidiaeth, iechyd, y byd academaidd, polisi a'r trydydd sector ynghyd â phobl sydd â phrofiad o gael eu heithrio ac o fod o dan anfantais wrth deithio.
Mae'r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal gan THINK os oes gennych unrhyw gwestiynau, Cysylltwch â thîm y digwyddiad.
Free