Making Sense of Microaggressions - webinar
Mae rhai pobl yn gyndyn i siarad am hil neu ddim yn gwybod ble i ddechrau. Eto i gyd, er mwyn hyrwyddo diwylliant ymchwil cynhwysol, mae angen cynnal sgyrsiau am hil a chael dealltwriaeth o’r hyn sy’n ysgogi hiliaeth mewn bywyd bob dydd.
Yn seiliedig ar eu llyfr ‘Making sense of Microaggressions’ (2021), mae Susan a Barry yn dadlau bod “microymosodiadau yn ffurfiau o ormes bob dydd sy’n tueddu i fynd heb eu gweld a heb eu cydnabod. Maent yn cynnwys islais cynnil a negeseuon cudd sy’n anfwriadol ac yn fwriadol.” Bydd y sesiwn awr o hyd hon yn darparu adnoddau i ddatblygu ein cymhwysedd diwylliannol drwy ddysgu sut mae microymosodiadau yn digwydd, eu heffaith a sut i ymdrin â nhw.
Cynnwys:
- Cyflwyniadau
- Cynnal sgyrsiau am hil
- Cydweithio – cyd-greu a chydweithredu
- Ymweliad â’r banc
- Microymosodiadau: diffiniad
- Cefndir cyffredinol
- 3 detholiad o ‘Making sense of microaggressions
- Beth i’w wneud?
- Myfyrdodau
- Cwestiynau a Sylwadau
- Diweddglo
Chyflwynwyr:
Susan Cousins yw awdures Overcoming Everyday Racism: Building Resilience and Wellbeing in the Face of Discrimination and Microaggressions (Jessica Kingsley Publishers). Susan yw'r Uwch Swyddog Cydymffurfio Hil-Crefydd a Chred ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Susan yn gynghorydd a goruchwyliwr profiadol, ac mae hi wedi ymrwymo i fynd i'r afael yn weithredol â materion hil a'i effaith ar lesiant seicolegol.
Mae Barry Diamond yn Uwch Ddylunydd a Rheolwr Brand ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd. Ef yw dylunydd Representology: cyfnodolyn y cyfryngau ac amrywiaeth Mae'n cymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau a chydweithrediadau ac yn cael ei ysbrydoli'n gyson gan y bobl greadigol mae'n eu cwrdd ac yn cydweithio â nhw.
Cynhelir y gweithdy hwn yn uniaith Saesneg
This event is being run by Early Career Researchers Network, for more information contact the team.
Free