Diverse group of people in discussion

Rhaglen Hyfforddi Adolygiad Systematig Cynhwysfawr (CSR) JBI

Datblygu, cynnal a chyflwyno adolygiadau systematig cynhwysfawr er mwyn rhoi’r dystiolaeth gryfaf posibl i lywio penderfyniadau a chanllawiau clinigol ynglŷn â gofal iechyd.

Cafodd ein Hadolygiad Systematig Cynhwysfawr (CSR) Joanna Briggs Institute (JBI) ei ddylunio i baratoi ymchwilwyr a chlinigwyr i ddatblygu, cynnal a chyflwyno adolygiadau systematig cynhwysfawr o dystiolaeth ansoddol a meintiol, ar sail dull JBI a defnyddio meddalwedd JBI SUMARI (System for the Unified Management of the Assessment and Review of Information).

 

  • Modiwl 1 (Cyflwyniad i adolygiadau systematig): 10 Mehefin 2024 (09:30 i 16:30)
  • Modiwl 2 (Synthesis tystiolaeth feintiol): 11 – 14 Mehefin 2024 (09:30 i 16:30)
  • Modiwl 3 (Synthesis tystiolaeth feintiol): 17 – 18 Mehefin 2024 (09:30 i 17:30)

Bydd y modiwlau'n cael eu cynnal yn rhithiol a byddant yn cynnwys amrywiaeth o addysgu a gweithgareddau grŵp annibynnol. Bydd eich tiwtor wrth law i ofyn cwestiynau iddo/iddi os bydd angen. Bydd llawer o egwyliau wedi’u hamserlennu yn ystod y diwrnod hefyd.

Mae'r gynhadledd hon yn cael ei chynnal gan Brifysgol Caerdydd os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â thîm y digwyddiad.

 

-

Ar-lein