hen wraig yn darllen gyda bachgen ar soffa

Sioe Deithiol Ymchwil Gofal Cymdeithasol

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru i gyflwyno dau ddigwyddiad ymchwil personol i arddangos gwerth ymchwil ar gyfer gofal cymdeithasol.

Mae ein sefydliadau wedi gweithio gyda Chynghrair James Lind i ofyn i ymarferwyr a phobl sy’n defnyddio gofal cymdeithasol a chymorth i ddweud wrthym am eu problemau a’u cwestiynau pwysicaf. Cyhoeddwyd y 10 blaenoriaeth ymchwil uchaf ar safle gofal a chymorth i bobl hŷn ym mis Chwefror 2021, gyda’r blaenoriaethau i blant a theuluoedd yn dilyn ym mis Chwefror 2023.

Mae’r digwyddiadau diwrnod cyfan, yn Venue Cymru yn Llandudno a Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd, yn rhad ac am ddim i’w mynychu ac yn rhoi cyfle i’r gymuned gofal cymdeithasol ddysgu, rhwydweithio a chydweithio. Ymunwch â'ch cyd-ymarferwyr ac ymchwilwyr wrth i ni arddangos a thrafod yr ymchwil ddiweddaraf ac amlygu gwerth ymchwil ar gyfer ymarfer, gan ganolbwyntio'n arbennig ar flaenoriaethau ymchwil a nodwyd.

Bydd digwyddiad gogledd Cymru yn cael ei gynnal ar Ddydd Mawrth 23 Mai yn Venue Cymru, Llandudno a bydd yn canolbwyntio ar faterion gofal cymdeithasol o safbwynt cymorth i blant a theuluoedd.

Yn y digwyddiad yn ne Cymru ar Ddydd Mawrth 13 Mehefin yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, byddwn yn canolbwyntio ar ofal a chymorth i bobl hŷn. Bydd y sesiynau yn cynnwys:

  • gwerthuso Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
  • cymorth i ofalwyr di-dâl
  • gofalu am y person hŷn cyfan
  • gwaith cymdeithasol gyda phobl hŷn yn ei gyd-destun
  • technoleg mewn gofal cymdeithasol i oedolion.

Cofiwch ganslo os na fyddwch yn gallu mynychu, fel y gallwn gynnig eich lle i gydweithiwr gofal cymdeithasol.

 

-

Neuadd y Ddinas, Caerdydd