
The Tipping Point: Where next for health and care?
Wedi ei eni o adfeilion byd mewn argyfwng, mae’r GIG yn dyst parhaus i’r pethau anhygoel sy’n digwydd pan mae pobl yn dod ynghyd er lles pawb.
Ers 75 mlynedd, mae’r GIG wedi bod yn sylfaen i’n cymdeithas; yn diogelu’n cymunedau, ein ffrindiau, a’n teuluoedd. Mae’r GIG wedi cyflawni cymaint, ond bellach mae’n wynebu heriau digynsail byd-eang, yn cynnwys Covid-19, poblogaeth sy’n heneiddio, a’r argyfwng hinsawdd.
Rydym wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol. Mae’n amser i ni wynebu’r heriau hynny gyda’n gilydd ac ailadeiladu ein GIG i ffynnu yn y byd yfory. Rydym wedi gwneud hynny o’r blaen, a gallwn wneud hynny eto.
Ymunwch â ni ar 5/6 Gorffennaf am sgyrsiau agored a gonest am ddyfodol ein gwasanaeth iechyd. Pa ran wnewch chi ei chwarae?
Mae’r gynhadledd hon yn cynnwys deuddydd anhygoel yn llawn o siaradwyr adnabyddus rhyngwladol fydd yn herio’r ffordd yr ydych yn gweld dyfodol iechyd a gofal, yn cynnwys:
- Y Prif Weinidog y Gwir Anrh Mark Drakeford AS
- Yr Athro Syr Chris Ham
- Yr Arglwydd Nigel Crisp KCB
- Syr Frank Atherton, CMO
- Yr Athro Syr Don Berwick
- Y Fonesig Sue Bailey
- Yr Athro Syr Michael Marmott
- Yr Athro Syr Andy Haines
- Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol
- Eluned Morgan, AS, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
- Judith Paget CBE
- Syr David Haslam, CBE
- Yr Athro Donna Hall, CBE
Bydd gennym hefyd ystod ddynamig o sesiynau grŵp ysgogol ac arddangosfeydd gan weithwyr professynol iechyd gofal arloesol, ein noddwyr, a'n partneriaid.
Mae Comisiwn Bevan wedi ymrwymo i sicrhau bod y gynhadledd hon mor hygyrch ag y bo modd. Hoffem ddiolch i bawb sy’n ei gwneud hyn yn bosibl, yn cynnwys ein noddwyr, siaradwyr, a’r Celtic Manor am gynnal ein digwyddiad.
Rydym hefyd yn eich annog i ymuno â ni am ginio cynhadledd ar 5 Gorffennaf. Gweler 'add-ons' wrth archebu tocynnau.
This conference is being run by the Bevan Commission if you have any questions, please contact the event team