Father and daughter playing

Ymarfer a dysgu myfyriol: eiliadau hud ac eiliadau trasig

Mae DEEP yn ddull cydgynhyrchu o gasglu, archwilio, a defnyddio mathau amrywiol o dystiolaeth mewn dysgu a datblygu gan ddefnyddio dulliau stori a deialog.

Pwysigrwydd casglu ac archwilio straeon profiad

P’un a ydych yn darparu neu’n comisiynu gwasanaethau, mae’n bwysig cael mesur o ansawdd profiadau pobl a dysgu oddi wrthynt. Er y gellir dal hyn yn rhannol drwy arolygon, mae cydnabyddiaeth gynyddol y gall straeon pobl fod yn fwy pwerus wrth werthuso sy’n canolbwyntio ar ddysgu. Mae casglu tystiolaeth o brofiadau pobl wedi’i gynnwys yn Fframwaith Perfformiad a Gwella’r Gwasanaethau Cymdeithasol.

Y sesiwn hon

Bydd y sesiwn hanner diwrnod hwn yn cyflwyno pobl i ddull syml ac ymarferol o gasglu a dysgu o straeon profiad pobl. Gan ddechrau gydag amlinelliad o’r egwyddorion y tu ôl i Gyd-ddylunio ar Sail Profiad (Bate a Robert, 2007), bydd yn mynd ymlaen i egluro sut i gasglu ‘eiliadau hud’ ac ‘eiliadau trasig pobl.’ Bydd yn cloi gydag archwilio sut y gall y straeon hyn cael ei ddefnyddio fel catalydd ar gyfer dysgu a datblygu.

Pwy allai elwa o'r sesiwn?

Mae eiliadau hud a thrasig yn ddull syml, deniadol a hawdd ei ddeall sy'n berthnasol i ymarferwyr, rheolwyr, pobl sy'n cael eu cefnogi gan wasanaethau a gofalwyr di-dâl. Bydd y sesiwn o fudd arbennig i bobl sydd â diddordeb mewn datblygu a gwella gwasanaethau a phobl sy'n gweithredu Fframwaith Perfformiad a Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol.

Mae'r gynhadledd hon yn cael ei chynnal gan Gofal Cymdeithasol Cymru os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â thîm y digwyddiad.

-

Ar-lein