people sitting looking at presentation

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Fforwm Ymgysylltu a Chynnwys y Cyhoedd

Mae ein fforwm sydd ar ddod yn ymwneud ag Effaith Cynnwys y Cyhoedd. Trwy sgyrsiau a sesiynau grŵp bach rhyngweithiol, byddwn yn archwilio sut mae adborth yn cael ei gasglu, ei rannu a'i droi'n newid go iawn.

Bydd y fforwm yn edrych ar sut mae adborth yn cael ei gasglu a'i ddefnyddio, gan wneud yn siŵr y sylwir ar gyfraniadau pobl a’u bod yn arwain at newidiadau go iawn. 

Mewn grwpiau bach, bydd pobl yn dod o hyd i gwestiynau syml a ffyrdd o fesur sut mae cynnwys y cyhoedd a chyllid yn helpu. Bydd y trafodaethau yn helpu i benderfynu: 

  • Pwy ddylai roi adborth
  • Pa wybodaeth ddylai gael ei rhannu
  • Sut y gellir rhannu adborth gyda mwy o bobl

Beth i'w ddisgwyl:

  • Diweddariadau ar y Cynllun Gweithredu Darganfod Eich Rôl a phrosiectau allweddol eraill
  • Trafodaethau rhyngweithiol i wella adborth ac adrodd
  • Cyfleoedd i rannu eich profiadau a llunio gweithgareddau yn y dyfodol
-

Online