Amser o newid; amser i newid?
Bydd y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) yn cynnal ei gynhadledd Zoom cyntaf i gydfynd â phen-blwydd y cyfnod clo cenedlaethol.
Thema gyffredinol y gynhadledd yw Gorffennol, Presennol a’r Dyfodol mewn perthynas â'r pandemig byd-eang a'r effaith y mae wedi'i chael ar fywydau a bywoliaeth pobl hŷn. Bydd y digwyddiad yn ymdrin â phynciau fel amgylcheddau heneiddio, tai, trafnidiaeth, gwybyddiaeth a dementia, cyflogaeth a'r celfyddydau creadigol.
Fe'i cynhelir dros dridiau i rannu cymaint o wybodaeth â phosibl. Heléna Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, fydd y prif siaradwr ac yn agor y gynhadledd.
Bydd y diwrnod cyntaf yn trafod tai a thrafnidiaeth, gyda siaradwyr cynnwys Jeremy Porteus o Housing LIN (Rhwydwaith Dysgu a Gwella) ac Annette Edwards o GWR (Great Western Rail).
Bydd yr ail ddiwrnod yn ymdrin ag ystod eang o bynciau o dechnoleg, ymddeoliad, gweithwyr hŷn, gwirfoddoli ac amrywiol brosiectau ymchwil, gyda chyflwyniadau gan Dechnoleg Iechyd Cymru a Chymunedau Digidol Cymru.
Ar y diwrnod olaf, trafodir gwybyddiaeth a dementia, a'r celfyddydau creadigol, gyda chyflwyniadau gan y Craftavist Dementia, y prosiect Get There Together a'r prosiect Rhyng genedlaethol.
Bydd y digwyddiad cyfan yn frith o straeon bywyd go iawn gan bobl hŷn, gan rannu eu profiadau o fywyd yn ystod y pandemig.
Bydd sesiynau'n rhyngweithiol gyda'r cyfle i gymryd rhan.
£0.00
I gofrestru ewch i wefan Prifysgol Abertawe