Woman receiving fourth dose of COVID-19 vaccine in COV-Boost trial

Angen gwirfoddolwyr ar gyfer astudiaeth cymharu pedwaredd ddôs atgyfnerthu brechlyn COFID-19

22 Chwefror

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr i gymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil i'r defnydd o frechlyn COFID-19  sydd yn targedu'r amrywiolyn Omicron pan roddir y bedwaredd ddôs.

Cynhelir yr astudiaeth hon gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr (fel safle GIG ar ran Iechyd Cyhoedus Cymru,) a chaiff ei noddi gan Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Ysbyty Prifysgol   Southampton.

Mae'n bosibl y byddwch yn gymwys i fod yn rhan o'r astudiaeth os ydych:

  • Yn 30 oed neu hŷn
  • Wedi derbyn Pfizer neu Moderna fel eich trydedd ddôs atgyfnerthu o leiaf 3 mis (84 diwrnod) yn ôl
  • Heb brofi'n bositif ar gyfer COFID-19 mewn prawf PCR, llif unffordd, na phoer

Bydd tïm yr astudiaeth yn talu hyd at £225 am eich amser, anhwylustod a chostau teithio (yn ddibynnol ar nifer yr ymweliadau y byddwch yn eu gwneud).

Bydd yn ofynnol i gyfranogwyr fynychu sesiwn sgrinio a brechu, gyda phedwar ymweliad yn dilyn ar gyfer profion gwaed. Gofynnir i gyfranogwyr hefyd gadw e-Ddyddiadur o unrhyw symtomau yn dilyn y frechiad. Bydd yr astudiaeth gyfan yn cymryd hyd at 8 mis. 

Os oes gennych ddiddordeb ac am gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan yr astudiaeth lle gallwch hefyd gwblhau'r holiadur cyn-sgrinio i weld os ydych yn gymwys.

Mae'r alwad hon am wirfoddolwyr yn dilyn galwad gynharach i bobl ifanc 18-30 oed gymryd rhan mewn treial sy'n archwilio brechiadau atgyfnerthu dos is, sy'n dal i chwilio am gyfranogwyr.