Angerdd deuol Dr Marlise Poolman: Ymchwil gwaith clinigol a gofal lliniarol
5 Hydref
Mae Dr Marlise Poolman, a ddyfarnwyd cyllid iddi gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac sy'n ymchwilydd uchel ei pharch yng Nghanolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru, wedi ymroi ei gyrfa i ymarfer clinigol ac ymchwil arloesol mewn gofal lliniarol.
Mae ei thaith i'r maes hwn yn ysbrydoledig ac wedi'i gwreiddio'n ddwfn yn y boddhad personol o weld ei hymchwil yn cael ei gweithredu a gofal cleifion yn gwella.
Gyrfa gynnar
Dechreuodd Marlise ei haddysg feddygol yn Ne Affrica, gydag uchelgais amlwg i arbenigo mewn endocrinoleg, sef astudiaeth hormonau. Ar ôl symud i'r DU, sicrhaodd gylchdro swydd yn Ne Cymru, ac roedd hi'n gweld hyn fel cam hanfodol tuag at ei breuddwyd wrth lunio dyfodol ei gyrfa.
Yn ystod ei chyfnod preswyl, daeth ar draws gofal lliniarol am y tro cyntaf, profiad a newidiodd ei llwybr yn sylweddol. Roedd ei chleifion yng nghamau olaf eu bywydau ac fe wnaeth eu profiadau gyffwrdd â hi'n ddwfn. Roedd rhai yn ddewr yn wynebu eu marwolaeth eu hunain, tra bod eraill yn mynegi ofn neu ddiolchgarwch am y cysuron bach y gallai Marlise eu darparu.
"Dwi'n gallu cofio'r bythefnos gyntaf yna yn yr hosbis yn dod nôl yn llefain bob nos.
"Erbyn yr ail wythnos, dywedais wrth fy ngŵr, gan lefain eto: Dyma fy arbenigedd. Dyma beth rydw i eisiau ei wneud."
Cofleidio meddygaeth liniarol
Er nad oedd ganddi unrhyw hyfforddiant ffurfiol mewn gofal lliniarol yn ystod ei hastudiaethau yn Ne Affrica, cafodd Marlise ei denu i'r arbenigedd. Datgelodd effaith emosiynol gofal diwedd oes iddi bwysigrwydd y maes hwn.
"Daeth y syniad i mi wedi hyn.
"Roeddwn i bob amser yn meddwl efallai fy mod i'n fwy o wyddonydd ac ymchwilydd ac efallai y dylwn fod wedi astudio peirianneg gemegol, ac na ddylwn i byth weithio gyda phobl, ond rwy'n ddiolchgar am ofal lliniarol fel fy arbenigedd oherwydd ei fod wedi peri i mi ymgysylltu â phobl ar ddiwedd eu hoes ar adeg pan fo pobl fwyaf agored i niwed."
Roedd y sylweddoliad hwn yn nodi dechrau ei hymrwymiad i ofal lliniarol, mewn ymarfer clinigol ac ymchwil. Yna, aeth Marlise ymlaen i sicrhau Gwobr Amser Ymchwil y GIG gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a gychwynnodd ei gyrfa ymchwil.
Cydbwyso gwaith clinigol ac ymchwil
Mae ffocws deuol Marlise yn amlwg yn ei chyflawniadau proffesiynol. Mae hi'n angerddol am weithio'n uniongyrchol gyda chleifion tra hefyd yn hyrwyddo gofal lliniarol trwy ymchwil. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar gefnogi pobl sy'n dymuno marw gartref, maes ymchwil sy'n dod â boddhad mawr iddi. Mae'r dull ymarferol hwn yn caniatáu iddi arsylwi canlyniadau cadarnhaol ei hymchwil yn uniongyrchol.
Astudiaeth CARiAD
Canolbwyntiodd astudiaeth CARiAD (sef CARer-ADministration o feddyginiaeth isgroenol yn ôl yr angen ar gyfer symptomau arloesol mewn cleifion sy'n marw yn y cartref) dan arweiniad Dr Marlise ar rymuso rhoddwyr gofal gyda'r wybodaeth a'r sgiliau i weinyddu meddyginiaethau i reoli symptomau eu hanwyliaid gartref, felly mae'n fwy tebygol y byddant yn marw yn yr amgylchedd hwnnw. Mae gofalwyr yn cael eu cefnogi gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol a'u hyfforddi ar sut i adnabod symptomau, sut i roi pigiadau ac yna gweld a ydyn nhw'n gweithio i leddfu'r symptomau.
Mae'r dull arloesol hwn nid yn unig wedi gwella cysur a lles cleifion ond hefyd wedi lleddfu'r baich ar weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ystod y pandemig. Er bod astudiaeth CARiAD bellach ar waith yn fwyfwy ledled y DU, Cymru oedd y cyntaf i weithredu'r dull hwn yn gynnar yn 2020.
Aeth Marlise yn ei blaen:
"Cafodd y polisi ei weithredu o fewn wythnos i mewn i'r pandemig a Chymru oedd y cyntaf. Y wlad gyntaf yn y byd i weithredu'r dull hwn o ymdrin â gofal diwedd oes ar fyr rybudd o'r fath."
Effaith
Drwy hyfforddi'r gofalwyr yn effeithiol, mae'r astudiaeth wedi:
- Lleihau amseroedd aros ar gyfer rheoli symptomau sy'n gwella cysur cleifion yn sylweddol
- Cynyddu hyder gofalwyr a gwneud iddynt deimlo eu bod yn cymryd rhan ac yn cael eu cefnogi i ofalu am eu ffrind neu aelod o'r teulu
- Darparu model gofal newydd a ysbrydolodd fabwysiadu'r dull hwn ledled y DU.
Cydnabyddiaethau
Derbyniodd Dr Poolman a'i thîm y Wobr Arloesi mewn Ymarfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2023 ar gyfer eu gwaith. Roedd y wobr hon yn cydnabod y ffyrdd y mae timau ymchwil ac unigolion wedi cael effaith wrth ddatblygu, cyflwyno neu weithredu eu hymchwil a'r gwerth y mae wedi'i roi i fywydau pobl.
Mae Dr Poolman yn cydnabod cyfraniadau amhrisiadwy'r tîm cyfan, gan dynnu sylw at y prosiect hwn fel ymdrech ar y cyd gan lawer o bobl, a dywedodd:
"Nid yw'r wobr hon dim ond i mi - mae i bob un ohonom. Heb bawb ar y tîm, ni fyddem wedi gallu llwyddo fel hyn."
Y camau nesaf
Wrth edrych ymlaen, mae Marlise yn parhau i fod yn ymrwymedig i lwybr ymchwil ac ymarfer clinigol. Mae hi'n gwerthfawrogi'r gallu i weld ei hymchwil yn cael ei gweithredu mewn lleoliadau byd go iawn, y mae'n ei ddisgrifio fel "braint."
Ewch i dudalennau cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i ddarganfod y cyfleoedd neu'r dyfarniadau cyllido cywir i chi a rhoi hwb i'ch taith ymchwil. Gallwch hefyd wylio Gweminar Cyfadran sy'n canolbwyntio ar brofiadau a mewnwelediadau o ail-ymgeisio am gyllid ymchwil gyda Dr Marlise Poolman.