Woman handling medicine

Annog oedolion â symptomau Covid-19 i ymuno â threial triniaethau ar gyfer gwella gartref

22 Mehefin

Mae trigolion ledled Cymru sydd â symptomau Covid-19 yn cael eu hannog i ymuno â threial mwyaf y byd o driniaethau gartref i atal dirywiad o’r coronafeirws.

Dan arweiniad ymchwilwyr Prifysgol Rhydychen, a gyda chefnogaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae'r treial Treialu Triniaethau ar Hap yn y Gymuned ar gyfer Salwch Epidemig a Phandemig (PRINCIPLE) yn ymchwilio i driniaethau ar gyfer Covid-19 cyfnod cynnar er mwyn lleihau'r amser gwella cyffredinol ac atal derbyniadau i'r ysbyty.

Cyffur gwrth-barasitiaid a ddefnyddir yn eang, Ivermectin, yw’r driniaeth ddiweddaraf yn y treial hwn. Mae unrhyw glaf sydd â chanlyniad prawf COVID-19 (SARS-CoV-2) positif a symptomau COVID-19 sy’n 18 oed a hŷn yn gymwys i ymuno o fewn y 14 diwrnod cyntaf o ddioddef o symptomau COVID-19.

Yn gynharach eleni, yr astudiaeth oedd y mwyaf yn fyd-eang i ganfod y gall y cyffur asthma sy’n cael ei anadlu i mewn o'r enw budesonide fod yn effeithiol fel triniaeth ar gyfer lleihau'r amser a gymerodd i wella o Covid-19 gartref.

Mae'r tîm ymchwil bellach yn apelio am bobl sydd â symptomau coronafeirws neu brawf positif o fewn y 15 diwrnod diwethaf i ymuno â'r treial naill ai ar-lein, dros y ffôn neu drwy eu practis meddyg teulu. Mae'r treial yn gwbl rithiol, sy'n golygu nad oes angen ymweliadau wyneb yn wyneb.

Gwnaeth Sean Foley gymryd rhan yn y treial ar ôl iddo brofi'n bositif am COVID-19 ar Ddydd Nadolig.

"Ar ôl deng diwrnod, roeddwn i'n dal i deimlo'n wael, felly ffoniais fy meddyg ac eglurodd ef am y treial PRINCIPLE a gofynnodd a fyddai gennyf ddiddordeb mewn cymryd rhan", meddai.

"Roeddwn i'n ei chael hi'n anodd iawn anadlu a meddyliais os gallai hyn helpu i'w glirio yna gwych!

"Doeddwn i ddim yn nerfus i gymryd rhan. Roeddwn i'n ymddiried yn y meddygon a byddwn i'n bendant yn annog pobl eraill i gymryd rhan. Mae'n dreial a all helpu pobl eraill, a chithau, i wella."

Dywedodd Dr Andrew Carson-Stevens, Arweinydd Arbenigedd Gofal Sylfaenol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a meddyg teulu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: "Rhan o’r ateb yn unig yw brechlynnau. Nid yw'r frwydr drosodd eto. Rhaid i ni barhau i ymchwilio i driniaethau i helpu i gyflymu adferiad ac atal pobl rhag mynd yn ddifrifol wael.

"Bydd angen y triniaethau hyn ar feddygon teulu i leihau nifer y bobl y mae angen iddynt fynd i'r ysbyty ac er mwyn gwneud hynny mae angen y gefnogaeth arnom gan wirfoddolwyr ledled Cymru.

"Felly, os ydych chi'n bodloni'r meini prawf, ewch i'r wefan neu rhowch wybod i'ch meddyg teulu yr hoffech chi helpu'r ymdrech genedlaethol hon."

Dywedodd yr Athro Chris Butler, cyd-arweinydd treial PRINCIPLE, a meddyg teulu yn Aberpennar: "Gydag amrywiolion Covid-19 yn dal i gylchredeg yn y gymuned mae'n hanfodol ein bod yn manteisio ar y cyfle hwn i gynhyrchu tystiolaeth o ansawdd uchel i benderfynu pa driniaethau sy'n gweithio, a pha rai nad ydynt yn gweithio."

Ariennir PRINCIPLE gan grant i Brifysgol Rhydychen gan Ymchwil ac Arloesi y DU a'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol drwy'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd fel rhan o gronfa ymateb ymchwil gyflym Llywodraeth y DU.

I gael gwybod mwy am sut i ymuno â'r astudiaeth, ewch i www.principletrial.org neu ffoniwch 0800 138 0880.

Ynglŷn â Threial PRINCIPLE

Arweinir platfform treialu PRINCIPLE ledled y DU o'r Uned Treialon Clinigol Gofal Sylfaenol yn Adran Gwyddorau Iechyd Gofal Sylfaenol Prifysgol Rhydychen. Mae'r treial wedi'i integreiddio â Chanolfan Ymchwil ac Arolygaeth Coleg Brenhinol Meddygon Teulu Rhydychen ac mae'n gweithio'n agos gyda Rhwydwaith Ymchwil Glinigol y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd ledled Lloegr a rhwydweithiau tebyg yn y gwledydd datganoledig.

Mae'n dreial iechyd cyhoeddus brys cenedlaethol a ariennir gan Ymchwil ac Arloesi y DU a'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol drwy'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd fel rhan o gronfa ymateb ymchwil gyflym Llywodraeth y DU. Ym Mhrifysgol Rhydychen, Adran Gwyddorau Iechyd Gofal Sylfaenol Nuffield yw'r ganolfan fwyaf, a’r gorau ar gyfer gofal sylfaenol academaidd yn y DU, gan ddod ag academyddion o lawer o wahanol gefndiroedd at ei gilydd i gydweithio i greu buddion i'r GIG, i boblogaethau ac i gleifion.