Gweinyddwr Cymeradwyaethau (rhan-amser-15 awr)

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolyn/unigolion brwdfrydig i ymuno â’n tîm i weithredu fel Gweinyddwr Cymeradwyaethau. 

Mae'r rôl hon yn rhan o'r Tîm Cymeradwyaethau Canolfannau Cymorth a Chyflenwi o fewn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn sefydliad rhwydweithiol, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, sy'n dwyn ynghyd ystod eang o bartneriaid ar draws y GIG yng Nghymru, awdurdodau lleol, prifysgolion, sefydliadau ymchwil, y trydydd sector ac eraill. 

Bydd angen bod gan ddeiliad y swydd sgiliau cyfathrebu rhagorol, meddu ar ymagwedd gadarnhaol a hyblyg tuag at anghenion y Gwasanaeth, y gallu i gael ei ysgogi, yn barod ar gyfer yr her nesaf ac yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm prysur iawn. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd y rôl yn cefnogi'r Pwyllgorau Moeseg Ymchwil wrth baratoi agendâu a chwblhau dyletswyddau gweinyddol cyfarfodydd gan gynnwys cymryd cofnodion. Bydd deiliad y swydd yn cefnogi wrth olrhain astudiaethau i ddarparu gwasanaeth cydlynol i ymgeiswyr a bydd ganddo wybodaeth ymarferol o'r broses gymeradwyo yn ei chyfanrwydd. 

Bydd deiliad y swydd yn rhan o dîm ehangach a fydd yn sicrhau bod adolygiadau priodol wedi'u cwblhau a'u cofnodi yn unol â phrosesau y cytunwyd arnynt. 

Bydd y rôl yn gofyn am gydweithio gydag ystod o randdeiliaid, mewnol ac allanol, er yn bennaf gyda staff o Weithrediadau Cymeradwyo ac aelodau Pwyllgor Moeseg Ymchwil cyfredol a darpar aelodau'r Pwyllgor Moeseg Ymchwil. Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd weithio ar ei liwt ei hun, dan oruchwyliaeth a chyfeiriad cyffredinol gan y rheolwr llinell, ac arddangos lefel uchel o dacteg, diplomyddiaeth a deallusrwydd emosiynol. 

Contract type: Cyfnod Penodol: 1 flynedd tan 30 Tachwedd 2026
Hours: Rhan-amser - 15 awr yr wythnos
Salary: Band 4 £27,898 - £30,615 y flwyddyn pro rata
Lleoliad: Brecon/North Wales/Cardiff
Job reference:
070-AC126-1025
Closing date: