Ar agor i ymchwilwyr yng Nghymru: NIHR yn lansio galwad ariannu newydd ar gyfer ymchwil COVID-19 tymor hir

9 Mehefin

Heddiw, mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd yn lansio galwad newydd ledled y DU yn gwahodd ceisiadau i ddeall a rheoli yn well effeithiau pandemig COVID-19 byd-eang ar iechyd a gofal cymdeithasol, y tu hwnt i’r cyfnod acíwt, ac i helpu i liniaru effaith cyfnodau dilynol y pandemig a’r hyn a fydd yn digwydd yn ei sgil.

Mae’r alwad ymchwil dreigl bresennol, ar y cyd gan Ymchwil ac Arloesi’r DU a’r NIHR, yn ariannu ymchwil ‘frys’ sy’n gysylltiedig â COVID-19 ac a fydd yn cael effaith o fewn 12 mis. Ond wrth i ni symud y tu hwnt i gyfnod acíwt cychwynnol y pandemig, bydd yr alwad newydd hon yn eistedd ochr yn ochr â’r alwad dreigl, gyda ffocws penodol ar ymchwil i ddarparu sail ar gyfer polisi ac ar gyfer adfer y systemau iechyd, gofal ac iechyd cyhoeddus yn sgil y pandemig, gyda chanlyniadau yn nodweddiadol o fewn 24 mis.

Mae’r NIHR yn croesawu ceisiadau ar gyfer ymchwil yng Nghymru sy’n cynnwys ymchwilwyr sy’n rhychwantu amrywiaeth o arbenigeddau a disgyblaethau gwyddonol sydd yng nghylch gorchwyl un neu fwy o’r rhaglenni ymchwil cyfranogol.