Arfer Ymchwil Da (GCP ar gyfer astudiaethau nad ydynt yn ymwneud â chyffuriau)
Hyfforddwr y cwrs: Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Hyd y Cwrs: Hanner diwrnod
Amlinelliad o’r Cwrs:
Nod y cwrs hwn yw rhoi dealltwriaeth i gynrychiolwyr o bob agwedd ar arferion ymchwil da a gofynion deddfwriaethol mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer astudiaethau nad ydynt yn ymwneud â chyffuriau.
Manylion y cwrs:
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer astudiaethau nad ydynt yn ymwneud â chyffuriau yn unig (nad ydynt yn dreialon clinigol o gynhyrchion meddyginiaethol ymchwiliadol, CTIMPs) ac mae'n cynnwys yr holl ymchwil a gynhelir mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r cwrs wedi'i lunio o amgylch gweithgareddau grŵp ymarferol a senarios seiliedig ar waith, gan ddefnyddio enghreifftiau bywyd go iawn i wneud y cynnwys yn berthnasol. Bydd yn cynnwys edrych ar bolisïau a gofynion deddfwriaeth ar gyfer cynnal ymchwil gyda bodau dynol.
Bydd y cwrs hanner diwrnod hwn yn disgrifio'r holl ofynion gan gynnwys:
- Safonau a deddfwriaeth ymchwil
- Timau dirprwyo ac astudio
- Cymhwysedd a chydsyniad ar sail penderfyniad cytbwys dilys
- Rheoli cofnodion a data astudiaethau
- Diogelwch a llesiant cyfranogwyr
- Cau’r astudiaeth
Bydd fformat y cwrs yn cynnwys cyflwyniadau, sesiynau rhyngweithiol a thrafodaethau.
Mae'r hyfforddiant Arfer Ymchwil Da Cymru gyfan yn opsiwn hyfforddiant amgen, cymesur i'r staff hynny sy'n gweithio ar astudiaethau nad ydynt yn ymwneud â chyffuriau ac nad oes angen GCP llawn, fel y nodir yn natganiad ar y cyd Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA)/Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA). Gwiriwch ofynion eich noddwr a hyfforddiant lleol ar gyfer eich astudiaeth bob amser.
Ar ôl yr hyfforddiant, bydd cyfranogwyr yn:
- Deall beth yw llywodraethu ymchwil a'r rheoliadau sy'n berthnasol i'w hymchwil
- Deall rolau a chyfrifoldebau unigolion a sefydliadau mewn ymchwil
- Deall proses, rolau a chyfrifoldebau derbyn cydsyniad ar sail penderfyniad cytbwys
- Dangos cywirdeb wrth fewnbynnu data a chau astudiaethau
- Trafod ystyriaethau a gofynion diogelwch cyfranogwyr cywir
Ardystiad CPD:
Mae’r hyfforddiant hwn wedi ei ardystio gan y Gwasanaeth Ardystio CPD.
3 awr/ppwyntiau CPD
Math o gwrs a manylion cofrestru:
Sesiynau wyneb yn wyneb a rhithwir byw.
Mae seshynnau peilot ar hyn o bryd yn cael eu cynnal gydag ychwanegiadau i ddod.